| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Parc Gwledig Loggerheads
Parc Gwledig Loggerheads

Lle poblogaidd i ymwelwyr yw Parc Gwledig Loggerheads, gan ddenu dros 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Yn y Ganolfan Cefn Gwlad caiff ymwelwyr ddysgu am hanes a bywyd y Parc ac mae yma doreth o wybodaeth a chyfle gwych i ddysgu.
 

Mae Parc Gwledig Loggerheads yn barc Gwledig sefydledig sydd mewn cwm calchfaen ym Mryniau Clwyd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae’n ymwneud â hanes mwyngloddio a thwristiaeth. Mae’r Parc yn cael ei reoli ar gyfer cadwraeth, a dynodwyd  yn SDDGA SSSI (Site of Special Scientific Interest). Mae’n gyfoethog mewn cynefinoedd naturiol gwahanol.

Mae’r Llwybr Darganfod yn denu ymwelwyr allan i’r parc. Gallant weld tystiolaeth o’r hanes drostynt eu hunain a digonedd o fywyd gwyllt. Caiff ymwelwyr y cyfle i fod yn Dditectif Llwybrau a chasglu symbolau dirgel.

Profiadau o goedlannau, glannau afonydd, a phen clogwyni – diwrnod gwych allan i’r teulu i gyd.

Gweithgareddau.
‘O Gwmpas yng Nghefn Gwlad Sir Ddinbych’ cyhoeddir y llyfryn bob mis Ionawr a cheir ynddo nifer o weithgareddau i blant, Teithiau cerdded gydag arweinydd, a digwyddiadau ymarferol sy’n digwydd drwy’r flwyddyn.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0