| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Park Gwledig Moel Famau
Park Gwledig Moel Famau

Wrth ichi ddod i Ogledd Ddwyrain Cymru rydych yn cael eich croesawu gyda golygfa o Foel Famau, bryn sy’n adnabyddus am Dwr y Jiwbilî sy’n amlwg ar ei gopa.

Lleolir Moel Famau o fewn Parc Gwledig Moel Famau sy’n 2000 acer o dirwedd mynydd pwysig ac sy’n ffurfio rhan o Fryniau Clwyd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Ffurfiwyd tirwedd y parc drwy gyfuniad o rymoedd natur a gweithgareddau dynol. Oherwydd yr angen oedd ar bobl am danwydd, defnyddiau adeiladu a thir pori, yn raddol fe gliriwyd y coed a fyddai wedi gorchuddio’r ardal ar un cyfnodo.

O fewn y Parc ceir tirwedd drawiadol o rostiroedd grug lliwgar sy’n newid yn laswelltir gwyrddach ar y llethrau is. Saif rhai coed criafol a draenen wen ymysg y llus a’r eithin. Mae’r parc yn bwysig hefyd am y nifer fawr o adar ysglyfaethus a mamaliaid.

Saif olion Twr y Jiwbilî ar fan uchaf y Parc yn 1818 troedfedd (554m) o uchder. Adeiladwyd i goffau Jiwbilî Aur y Brenin George III. Yn y flwyddyn 1862 chwalodd storm o wynt y twr gan gwtogi’r  gofeb a luniwyd yn null yr Aifft a gadael y murddun a welwch chi yma heddiw.

Arwyddion o bresenoldeb pobl gynnar yw olion y tair caer sydd ar gopa Moel Fenlli, Moel y Gaer a Moel Arthur. Codwyd y bryngeyrydd rhwng tua 500CC i 43OC. Mae rhagfuriau uchel, fertigol o gwmpas y ceyrydd. Buasent yn her ofnadwy i unrhyw ymosodwr oedd yn edrych i fyny arnynt o’r dyffryn islaw.


Cerdded
Nodwedd ganolog y Parc yw’r rhan sy’n ymestyn am saith milltir ar hyd Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Mae’n cymryd rhyw 40 munud i gerdded i Dwr y Jiwbilî ar hyd Llwybr Clawdd Offa o faes parcio Bwlch Penbarras.

Gweithgareddau.
‘O Gwmpas yng Nghefn Gwlad Sir Ddinbych’ cyhoeddir y llyfryn bob mis Ionawr a cheir ynddo nifer o weithgareddau i blant, teithiau cerdded gydag arweinydd, a digwyddiadau ymarferol sy’n cael eu cynnal drwy’r flwyddyn.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0