Sut i newid enw fy nhŷ?
Os ydych yn byw yn Sir Ddinbych ac os dymunwch newid enw eich tŷ, rhaid i berchennog yr eiddo naill ai lenwi'r ffurflen newid enw tŷ neu anfon cais ysgrifenedig at :
Adran gwybodaeth a mapio
Cyllid a Pherfformiad
Cyfarwyddiaeth Amgylcheddol
Caledfryn
Ffordd y Ffair, Dinbych
LL16 3RJ
Nodwch :
(i) Eich enw
(ii) Cyfeiriad llawn yr eiddo gan gynnwys y cod post
(iii) Enw newydd arfaethedig i'r eiddo.
Bydd tîm Tir ac Eiddo'r Cyngor Sir yn sicrhau nad oes dyblygu enw newydd yn yr ardal leol. Os bydd yr enw'r foddhaol yna gellir cofrestru'r cyfeiriad newydd a chewch wybod yn ysgrifenedig am hynny. Os oes unrhyw fater i'w ystyried oherwydd yr enw newydd arfaethedig byddwn yn gofyn am awgrymiadau gwahanol.
Bydd y tîm Tir ac Eiddo wedyn yn anfon y wybodaeth am newid enw'r eiddo at y Post Brenhinol, y gwasanaethau argyfwng a hanfodol, ac at adrannau eraill sydd â diddordeb o fewn y Cyngor Sir. Cyfrifoldeb perchnogion yr eiddo yw rhoi gwybod am eu cysylltiadau personol etc.
Argymhellir nad ydych yn defnyddio eich cyfeiriad arfaethedig nac yn printio unrhyw bapur hefo'r cyfeiriad arno nes i chi gael gwybodaeth ffurfiol gennym ni beth yw eich cyfeiriad newydd.
Os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni am y bwriad i newid enw, golyga hynny nad yw eich eiddo wedi'i gofrestru'n ffurfiol. Bydd hyn yn arwain at broblemau dosbarthu post, nwyddau a gwasanaethau.
Ni ellir dileu rhifau post oddi ar eiddo gan eu bod o gymorth i'r gwasanaethau argyfwng leoli eiddo.

Rhoi adborth ar y tudalen hon