Carchar Rhuthun
Mae carchar wedi bod ar safle Carchar Rhuthun ers yr ail ganrif ar bymtheg. Mae'n un o adeiladau mwyaf trawiadol Gogledd Cymru a'r unig garchar a adeiladwyd yn bwrpasol ar gynllun Pentonville sy'n agored fel atyniad treftadaeth. Ers yr ail-agoriad yn mis Mai 2002, ar ol gwaith adfer gwerth dwy filiwn o bunnoedd, gall pobl sbio i mewn i bob twll a chornel a dysgu am fywyd tu mewn i system carchardai oes Fictoria.
Dewch i weld sut roedd y carcharorion yn byw o ddydd i ddydd: beth gawsant i fwyta, pa waith a wnaethant a pha gosbau a ddioddefwyd ganddynt. Archwiliwch y celloedd yn cynnwys y gell gosbi, y gell 'dywyll' a'r gell gondemniad. Dysgwch am 'Houdini' Cymru, a William Hughes, y person olaf i'w grogi yno.
Dysgwch sut roedd y carchar yn gweithio - y system wresogi Fictoraidd; system awyru a chyfathrebu, y gegin, pobtai bara, ffynnon a thyllau sbio. Dewch a'ch hun i'r presennol - trwy ffatri arfau rhyfel i'r addasiad dychmygus presennol.
Teithiau sain wedi eu cynnwys yn y pris mynediad; droriau gweithgareddau plant; gweithgareddau ysgol a phecynnau gwybodaeth i athrawon ar gael; siop swfenirs; ystafelloedd te/caffis o fewn pellter cerdded; dathliadau ymrwymo a phartis pen-blwydd plant ar gael. Cliciwch ar y cyswllt ar y chwith am wefan Carchar Rhuthun.
Prisiau mynediad: oedolion £3.50. plant (5-16) £2.50.dinasyddion hyn £2.50. teulu £10. grwpiau wedi trefnu ymlaen llaw (15+) 10% disgownt. Maes parcio gyhoeddus gerllaw.
Oriau agor: Mawrth - Hydref 2007, 10am -5pm yn ddyddiol. Tachwedd 2007 - Chwefror 2008, 10am-5pm, penwythnosau a gwyliau ysgol. Ar agor gyda'r nos i grwpiau o drefnu ymlaen llaw. Cliciwch ar y cyswllt Digwyddiadau i weld beth sydd ymlaen yno ar hyn o bryd.Mynediad olaf 1 awr cyn cau
ORIAU AGOR DROS GWYLIAU'R NADOLIG: Bydd Carchar Rhuthun ar agor ar 15 a16; 22 a 23, 27-30 Rhagfyr 2007; a Ionawr 3-6 2008 o 10:00 y bore tan 4:00 y pnawn
Teithiau cyffwrdd a theithiau arwyddion ar gael trwy drefniant ymlaen llaw. Datganiad mynediad ar gael. Lle parcio ar y safle i ddalwyr bathodynau anabl. Trefniadau i grwpiau gan gynnwys addysg: Susan Dalloe - Ffon 01824 708281. Ffacs 01824 708258. e-bost: susan.dalloe@sirddinbych.gov.uk. ymholiadau cyffredinol: Carchar Rhuthun, Stryd Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 1HP. Tel 01824 708281

Rhoi adborth ar y tudalen hon