Hawliau a Chyfrifoldebau
Hawliau a Chyfrifoldebau Rhieni, Pobl Ifanc ac Ysgolion
Mae Rhieni/Gofalwyr
- yn gyfrifol am hysbysu’r ysgol am y rheswm dros unrhyw absenoldeb.
- yn gallu cynorthwyo eu plant drwy ddangos gwir ddiddordeb yn eu haddysg.
- yn gallu cynorthwyo gyda monitro presenoldeb, drwy gynnal cyswllt rheolaidd â’r ysgol.
- angen cynnal partneriaeth waith gadarnhaol rhwng y Gwasanaethau Addysg ac ysgolion.
- yn gyfrifol am sicrhau bod eu plentyn wedi gwisgo’n briodol a bod ganddo/ganddi’r cyfarpar cywir.
- yn euog o drosedd dan Adran 444(1) o Ddeddf Addysg 1996 os yw plentyn o oedran ysgol gorfodol sy’n gofrestredig mewn ysgol yn methu â mynychu’r ysgol yn rheolaidd yn unol ag Adran 7 o Ddeddf Addysg 1996.
Pobl Ifanc
- Rhaid gwneud pobl ifanc yn ymwybodol fod presenoldeb yn yr ysgol yn bwysig a’i fod yn flaenoriaeth uchel gan yr ysgol.
- Mae’n ofynnol i bobl ifanc deimlo’n hyderus y gallant drafod unrhyw broblemau sy’n effeithio ar eu presenoldeb gydag oedolyn yn yr ysgol.
- Rhaid gwneud pobl ifanc yn ymwybodol fod risg i’w diogelwch personol os ydynt yn chwarae triwant.
- Rhaid i bobl ifanc ddeall sut y gall presenoldeb gwael yn yr ysgol gael effaith negyddol ar eu cyfleoedd mewn bywyd yn y dyfodol.
- Dylid sicrhau bod pobl ifanc yn gwybod pwy yw Gweithiwr Cymdeithasol Addysg eu hysgol â’i swyddogaeth.
- Dylid pwysleisio bod cyrraedd y cyfnod cofrestru a’r holl wersi yn brydlon yn ffactor allweddol.
Dylai’r ysgol gynnig
- cymorth a chefnogaeth i rieni i hybu bod eu plant yn bresennol yn rheolaidd ac yn cyrraedd yn brydlon.
- sicrhau bod y broses gofrestru yn cael ei chyflawni’n ddi-oed ac yn gywir yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth a’r Awdurdod Addysg Lleol a bod y Gweithiwr Cymdeithasol Addysg yn cael eu gweld drwy wneud cais i’r perwyl hynny.
- gwestiynu’r rhesymau a gynigir am absenoldeb er mwyn adnabod unrhyw esboniadau gwantan gan rieni.
- ddangos pa gamau gweithredu a gyflwynwyd i wella presenoldeb person ifanc cyn atgyfeirio.
- ymateb ar fyrder i unrhyw broblemau a allai arwain at batrwm mynychu’r ysgol yn afreolaidd.
- gynhyrchu polisïau presenoldeb i’r ysgol gyfan. Dylai’r polisi fod yn unol â chanllawiau Llywodraeth y Cynulliad a pholisïau’r Gwasanaethau Addysg, a fydd yn cael eu hysbysu wrth y rhieni/gofalwyr a’u cymhwyso â chysondeb.
- ddefnyddio dulliau datrys problemau cadarnhaol i ymdrin â phroblemau diffyg presenoldeb.
- ystyried darparu cymelliannau i ddisgyblion sydd wedi gwella eu presenoldeb yn sylweddol h.y. system wobrwyo.
- weithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Addysg i adnabod a nodi unrhyw broblemau presenoldeb potensial ac atgyfeirio fel bo’n briodol gan ddefnyddio ffurflen gyfeirio’r Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Addysg.
- sylweddoli y gallai pob achos arwain at achos llys yn y pen draw a’i bod yn hanfodol bwysig cadw cofnodion manwl i’r Gweithiwr Cymdeithasol Addysg eu defnyddio fel tystiolaeth yn y llys os oes angen.

Rhoi adborth ar y tudalen hon