| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Gwasanaeth Nam ar y Clyw

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Clyw yn wasanaeth cymorth addysgol i blant â nam ar eu clyw. Gall y nam ar y clyw fod dros dro neu’n barhaol, a gall amrywio o golli clyw yn ysgafn i golli clyw yn llwyr.

Mae’r Gwasanaeth yn gweithio efo plant cyn oedran ysgol a phlant oedran ysgol hyd at 19 oed sy’n mynychu ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig. Mae’n wasanaeth cwbl ddwyieithog. Y nod yw rhoi cyfle cyfartal i’r disgyblion hyn a sicrhau eu bod yn cael addysg sy’n diwllau eu hanghenion personol, cymdeithasol ac academaidd, beth bynnag yw natur neu gymhlethdod y nam ar eu clyw.

Mae dyletswyddau’r gwasanaeth yn cynnwys:

  • Addysgu uniongyrchol un i un
  • Cyngor ynghylch dulliau cyfathrebu a defnyddio offer arbenigol
  • Cynghori ysgolion a chylchoedd cyn-ysgol i alluogi mynediad priodol i’r cwricwlwm
  • Cynghori a chefnogi rhieni a phlant gartref ac yn yr ysgol
  • Cydgysylltu â’r asiantaethau priodol eraill yn cynnwys swyddogion proffesiynol Awdioleg ac iechyd cymunedol, Therapyddion Iaith a Lleferydd, Seicolegwyr Addysg ac ati
  • Darparu hyfforddiant a chefnogaeth i ysgolion i annog cynhwysiant llwyddiannus
  • Darparu asesiadau clyw gweithredol a’r amgylchedd dysgu
  • Monitro ac adolygu anghenion y disgyblion.

Cyfeirio

Cyfeirir plant at y gwasanaeth o nifer o wahanol ffynonellau, yn cynnwys rhieni, meddygon, ysgolion ac asiantaethau addysgol eraill. Bydd y Gwasanaeth yn cysylltu â’r teulu a/neu’r ysgol o fewn wythnos i dderbyn cyfeiriad.

Cyn cynnal asesiad gofynnir am wybodaeth feddygol gan y clinig awdioleg. Gofynnir i rieni/gofalwyr lofnodi ffurflen gydsynio er mwyn caniatáu rhyddhau’r wybodaeth yma. Ni ellir gweithredu nes bo’r ffurflen gydsynio wedi ei llofnodi a’i dychwelyd.

Manylion cyswllt

Ann Davies Athrawes - Ymgynghorol i’r rhai â nam ar y clyw
Gareth Williams Athro - Ymgynghorol i’r rhai â nam ar y clyw  

Gwasanaeth Cymorth Clyw
Safle Dewi Sant
Ffordd Rhuddlan
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 2RE


Ffôn: 01745 369003
E-bost: ydshearing@sirddinbych.gov.uk

(Yn ystod gwyliau ysgol cysylltwch ag:-
Adran Addysg Gynhwysol
Gwasanaethau Addysg
Canolfan Addysg
Lôn Ganol
Dinbych
LL16 3UW
Ffôn: 01824 712027)

Arweinydd Tîm – Eirwen Vogler, Swyddog Addysg (Anghenion Arbennig)

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0