| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Gwasanaeth Nam ar y Golwg

 Gwasanaeth addysgol ar gyfer plant â nam golwg yw’r Gwasanaeth Golwg. Diffinnir nam golwg fel amhariad golwg parhaol, na ellir ei wella trwy wisgo sbectol.

Cynigir cefnogaeth gan athrawon nam golwg cymwysiedig, ynghyd â chymhorthydd wedi ei chymhwyso ar gyfer symudedd.

Mae’r Gwasanaeth yn gweithio gyda phlant o oedran cyfnod cyn-ysgol hyd at 19, sy’n mynychu ysgolion prif ffrwd neu ysgolion arbennig. Yn ogystal, mae’r Gwasanaeth yn cefnogi plant sydd ag anghenion ychwanegol. Cynigwn wasanaeth dwyieithog.

Rôl y Gwasanaeth

  • Dysgu uniongyrchol gan gynnwys braille, teipio, symudedd, defnyddio offer arbenigol ac offer golwg isel.
  • Cynghori ysgolion a sefydliadau cyn-ysgol er mwyn sicrhau mynediad i’r cwricwlwm.
  • Cynghori a chefnogi rhieni a phlant adre’ ac yn yr ysgol.
  • Cydweithio gydag asiantaethau eraill gan gynnwys gwasanaethau iechyd, RNIB, seicolegwyr addysgol.
  • Darparu hyfforddiant a chefnogaeth i ysgolion er mwyn annog cynhwyso llwyddiannus.
  • Darparu asesiadau o olwg ymarferol a’r amgylchedd dysgu.
  • Monitro ac adolygu anghenion y plentyn.

Cyfeirio

Derbyniwn atgyfeiriadau o ffynonellau gwahanol e.e. rhieni, iechyd, ysgolion ac asiantaethau addysgol.
Bydd y Gwasanaeth yn cysylltu â’r rhieni/ysgol o fewn wythnos i dderbyn yr atgyfeiriad.

Cyn ymgymryd ag asesiad, gofynnir am wybodaeth gan y clinig llygad. Rhaid darparu ffurflen caniatâd gan y rhieni cyn rhyddhau’r wybodaeth yma. Ni allwn barhau gyda’r asesiad oni bai i ni dderbyn caniatâd rhieni.

Manylion Cyswllt

Jil Timothy - Athrawes Ymgynghorol Nam Golwg
Paul Montgomery - Athro Ymgynghorol Nam Golwg
Delia Davies - Cymhorthydd Arbenigol/Swyddog Symudedd

Gwasanaeth Golwg
Safle Dewi Sant
Ffordd Rhuddlan
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 2RE

Ffôn: 01745 369003
E-bost: vision@sirddinbych.gov.uk

(Yn ystod gwyliau ysgol cysylltwch ag:-
Adran Addysg Gynhwysol
Gwasanaethau Addysg
Canolfan Addysg
Lôn Ganol
Dinbych
LL16 3UW
Ffôn: 01824 712027)

Arweinydd Tîm – Eirwen Vogler, Swyddog Addysg (Anghenion Arbennig)

Mae’r daflen ar gael mewn fformat print bras/braille

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0