Mae Cyngor Sir Ddinbych (mapiau) yn ymestyn o drefi glan-y-môr Gogledd Cymru, Y Rhyl a Phrestatyn, i lawr trwy Ddyffryn Clwyd, i’r dde cyn belled â Chorwen a thref dwristaidd boblogaidd Llangollen. Mae hefyd yn cynnwys trefi hanesyddol Rhuddlan, Dinbych a Rhuthun, pob un â’i chastell ei hun, yn ogystal â thref gadeiriol fechan Llanelwy.
Ffurfiwyd y Sir ym mis Ebrill 1996 fel un o awdurdodau unedol newydd Cymru. O’r dechrau’n deg, penderfynwyd yn erbyn cael un pencadlys sirol pellennig gan sefydlu swyddfeydd mewn nifer o0 lefydd trwy’r ardal. Ceir swyddfeydd sirol ym Mhrestatyn, Y Rhyl, Dinbych a Rhuthun, gyda siopau un-alwad yng Nghorwen a Llangollen.
Sir amaethyddol yw Sir Ddinbych yn bennaf a thwristiaeth ac amaethyddiaeth yw ei phrif ddiwydiannau. Mae parc busnes Llanelwy, sy’n ffinio â’r A55 ac yn ehangu’n gyflym, yn gartref i sawl cwmni a sefydliad. Yno, mae cartref pencadlys rhanbarthol Asiantaeth Datblygu Cymru.
Mae gwibffordd yr A55 yn llwybr hwylus at gysylltiadau fferis Iwerddon yng Nghaergybi, meysydd awyr Manceinion a Lerpwl a phrif rwydweithiau’r DU. Ceir hefyd gysylltiadau trên uniongyrchol o’r Rhyl i Gaerdydd (tair awr a hanner), Llundain (tair awr a chwartar) a phrif drefi a dinasoedd eraill y DU.
Ystadegau Sir Ddinbych (Cyfrifiad 2001)
Y Boblogaeth
Cyfanswm y boblogaeth = 93,065
Y boblogaeth wrywaidd = 44,544 (48% o'r cyfanswm)
Y boblogaeth Fenywaidd = 48,521 (52% o'r cyfanswm)
Y Gweithgaredd Economaidd
Oedran Gweithio = 65,203 (70.1% o'r boblogaeth)
Economaidd weithredol = 40,678 (62.4% o'r boblogaeth)
Economaidd anweithredol = 24,525 (37.6% o'r boblogaeth)
Di-waith = 2,232 (5.5% o'r boblogaeth)
Proffil Economi Sir Ddinbych
--------------------------------------------------------------------------------
Mae'r safle hwn yn rhoi'r holl wybodaeth y byddwch ei angen ar le i aros yn Sir Ddinbych, rhestr o atyniadau, yn ogystal a manylion
trafnidiaeth gyhoeddus a chyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd Sir Ddinbych.


Rhoi adborth ar y tudalen hon