| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Pontydd yn Sir Ddinbych
Pontydd

Pontydd yn Sir Ddinbych

Yr Adran Trafnidiaeth ac Isadeiledd sy’n gyfrifol am gynnal a chadw pontydd ffyrdd Sir Ddinbych. 

Mae’r pontydd dros reilffyrdd gweithredol yn eiddo i, ac yn cael eu cynnal gan Network Rail.  Mae pontydd ar a dros yr A55 a’r A494 yn cael eu rheoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

Cynhelir archwiliadau rheolaidd i nodi unrhyw waith cynnal a chadw neu waith trwsio sy’n ofynnol.  Mae ein rhaglen cynnal pontydd cynllunedig yn amrywio o gael gwared o lystyfiant i waith adnewyddu, cryfhau ac ailadeiladu. 

Ar hyn o bryd rydym yn y broses o gynnal rhaglen o asesiadau cryfder, a fydd yn asesu a yw ein pontydd yn cydymffurfio â’r safonau presennol a phwysau cerbydau modern.  Er budd diogelwch weithiau mae’n angenrheidiol cyflwyno cyfyngiadau pwysau tra ein bod ni’n trefnu gwaith cryfhau pontydd. 

Waliau Cynnal

Yn gyffredinol mae waliau cynnal sy’n cynnal y briffordd yn gyfrifoldeb y Cyngor.  Yn gyffredinol mae waliau cynnal sy’n cynnal tir uwchben y briffordd a waliau terfyn yn gyfrifoldeb y tirfeddiannwr. 

Strwythurau Newydd

Rhaid i unrhyw gynllun arfaethedig i greu strwythur newydd ar neu wrth ymyl y briffordd (yn cynnwys waliau cynnal, cwlfertau a phontydd) gael eu cymeradwyo gennym ni o flaen llaw.  Yn ychwanegol mae’n rhaid ein hysbysu am unrhyw waith wedi’i leoli o fewn 3.66 metr i unrhyw briffordd presennol. 

Llwythi Anarferol

Mae’r grŵp pontydd yn gyfrifol am reoli llwythi anarferol a rhaid rhoi o leiaf deuddydd o rybudd o flaen llaw ynghylch symud unrhyw lwyth anarferol, drwy gyfrwng ffacs gan amlaf.  Ein rhif yw 01824 706865.

Dylid hysbysu Bob Humphreys neu Tom Turner am unrhyw ddifrod i bontydd drwy ffonio 01824 706908.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0