| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Recriwtio Gweithredol
Recriwtio Gweithredol

Er gwybodaeth, ac fel enghraifft, dyma'r swydd weithredol ddiweddaraf a hysbysebwyd gennym - mae'r swydd hon wedi ei llenwi erbyn hyn.

Croeso

gan - Cyfarwyddwr Corfforaethol

Annwyl Ymgeisydd,

Diolch i chi am ymweld â'r wefan i gael gwybod mwy am y swydd gyffrous hon gyda Chyngor Sir Ddinbych. Mae gan Sir Ddinbych lawer i gynnig fel lle i fyw ac i weithio ac mae'r Cyngor yn le egnïol, cymleth a heriol i weithio ynddo. Ein cyllideb refeniw gros yw oddeutu £180m gyda chyllideb cyfalaf o £30m. Rydym yn cyflogi 4,500 o staff ac yn darparu ystod lawn o wasanaethau llywodraeth leol i bobl y Sir.

Ein gweledigaeth, fel yr amlinellir yn y Strategaeth Gymunedol, yw y gallwn, trwy weithio gyda'n gilydd, sicrhau gwell addysg a dyfodol mwy llewyrchus, gwyrddach, diogelach a mwy hyderus i bobl a chymunedau Sir Ddinbych.

Mae'r Gyfarwyddiaeth Dysgu Gydol Oes yn chwarae rhan flaenllaw o fewn gweithrediad yr Awdurdod Addysg Lleol yn y Sir ac mae wedi ymglymu'n agos at yr agenda Plant a Phobl Ifanc. Rydym wedi ailstrwythuro'n ddiweddar er mwyn gallu ymdrin â'r mater allweddol hwn ac hefyd y mater o Wella Ysgolion ac rydym wedi creu y swydd hon o'r herwydd. Mae pobl ifanc y Sir yn haeddu'r gorau ac felly ni fyddwn yn cyfaddawdu ar safon y bobl fydd yn cael eu apwyntio i'r swyddi hyn.

Mae'r swydd angen unigolion ymroddedig sydd ddim yn ofni her. Byddwch yn reolwr effeithiol ar gyfer pobl ac adnoddau, ond yn anad dim, bydd gennych y sgiliau i ddylanwadu ac ysgogi pobl i weithio gyda chi. Mae partneriaethau'n hanfodol yng nghyd-destun llywodraeth leol heddiw a byddwn yn archwilio profiad a llwyddiant ymgeiswyr yn y maes hwn. Byddwch yn uchelgeisiol er eich mwyn eich hun ac er mwyn y gwasanaeth ac fe fyddwn ninnau felly'n hapus i'ch gweld yn datblygu a ffynnu yn y swyddi hyn.

Ar ôl astudio'r wybodaeth ar y safle hon, os ydych yn meddwl bod gennych chi'r gallu a'r sgiliau i ddatblygu Sir Ddinbych yna byddem yn falch iawn o glywed gennych.


 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0