Er gwybodaeth, ac fel enghraifft, dyma'r swydd weithredol ddiweddaraf a hysbysebwyd gennym - mae'r swydd hon wedi ei llenwi erbyn hyn
Cyflwyniad
Os ydych wedi darllen yr holl wybodaeth ar y safle hon ac os ydych am wneud cais, dilynwch y canllawiau isod.
Os nad yw rhai o fanylion neu ofynnion y swydd hon yn hollol eglur i chi, efallai y byddwch eisiau edrych ar y dogfennau i lawrlwytho sy'n cynnwys manylebau'r swydd a'r person a thelerau ac amodau cyflogaeth.
Y broses o wneud cais
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw ........
Os hoffech wneud cais, anfonwch gopi o'ch CV, gyda llythyr eglurhaol a gwybodaeth ategol gan ddyfynnu'r cyfeirnod isod:
Bydd hefyd angen i chi lenwi'r Ffurflen monitro cyfle cyfartal (isod), a'i hanfon gyda'ch cais.
Mae'n bwysig eich bod yn rhoi tystiolaeth ac esiamplau ynglyn â sut fydd eich profiad yn gymorth i chi gyflawni prif ddyletswyddau'r swydd a amlinellwyd yn manyleb y swydd, ac eich bod yn gallu dangos sut yr ydych yn gwireddu'r pwyntiau a amlinellwyd yn manyleb y person.
Bydd hefyd angen i chi ddarparu eich manylion cyswllt, gan gynnwys rhif eich ffôn symudol a chyfeiriad e-bost os oes gennych un. Rhowch wybod hefyd am unrhyw ddyddiadau pan na fyddech ar gael neu os bydd yr amserlen yn creu unrhyw anhawsterau i chi.
Anfonwch eich cais, ynghyd â'ch Ffurflen monitro cyfle cyfartal trwy e-bost i: ...............................
Neu trwy'r post i:
..............................................
Cyfle cyfartal
Llenwch a dychwelwch y ffurflen monitro cyfle cyfartal gyda'ch cais. Bydd hyn o gymorth i ni ddilyn argymhellion y Comisiwn Cyfle Cyfartal, y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol a'r Comisiwn Hawliau Anabledd sy'n datgan y dylai cyflogwyr fonitro penderfyniadau recriwtio i asesu a yw cyfle cyfartal yn cael ei gyflawni. Bydd y wybodaeth ar y ffurflen yn cael ei drin yn gyfrinachol, ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion ystadegol yn unig. Ni fydd y ffurflen hon yn cael ei defnyddio fel rhan o'ch cais.
Lawrlwytho'r ffurflen monitro cyfle cyfartal (MS Word doc)
Recruitment Timetable
Amserlen recriwtio
Dyddiad cau .........
Cyfarfod rhestr hir (ni fydd yr ymgeiswyr yn bresennol) ............
Cyfweliadau rhagarweiniol ..................
Cyfarfod rhestr fer ................
Cyfweliadau terfynol ...............
Y broses recriwtio
Bydd ............... yn trin pob ymholiad, ffurfiol neu anffurfiol, yn gwbl gyfrinachol.
Os ydych yn penderfynu gwneud cais ffurfiol, bydd .................. yn rhoi gwybod i chi dros y ffôn a ydych wedi cael eich dewis ar gyfer cyfweliad rhagarweiniol. Os nad ydych yn cael eich dewis, byddwch yn cael gwybod trwy lythyr yn fuan wedi hynny.
Cynhelir y cyfweliadau rhagarweiniol yn swyddfeydd ...................Bydd ymgeiswyr a gyfwelwyd yn cael gwybod y canlyniad dros y ffôn yn fuan wedi'r cyfarfod rhestr fer.
Bydd pob ymgeisydd yn cael cynnig adborth llawn ynglyn â'u cais a/neu eu cyfweliad gan .......................
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â'r broses, neu os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:

Rhoi adborth ar y tudalen hon