Rheoli Llygredd Swn
Rheoli Llygredd Swn
Rhoddwyd nifer o ddiffiniadau ar swn, yn dibynnu ar yr amgylchiadau ble mae’n digwydd a’r effaith y mae’n ei achosi. Efallai mai’r diffiniad mwyaf priodol felly ydy ‘swn nad ydy’r sawl sy’n ei glywed yn ei ddymuno’. Mae cwynion a wneir ynghylch swn i Awdurdodau Lleol wedi cynyddu dros y blynyddoedd. Mae’n debyg mai’r rheswm am hyn yn rhannol ydy cyfuniadau o’r canlynol:-
- Mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus o faterion yn ymwneud â swn.
- Disgwyliadau uwch gan y cyhoedd o ran ansawdd bywyd.
- Y cynnydd ym mhwer cyfarpar trydanol y cartref.
- Mwy o oriau hamdden.
- Mwy o ddiweithdra a’r gwrthdrawiad yn y ffordd o fyw sy’n dilyn.
- Gostyngiadau yn y gwanhau swn mewn anheddau.
- Datblygu tir rhwng busnesau sydd mewn bod, tai preswyl neu ffynonellau swn sydd mewn bod.
Mae ein prif rôl o fewn y Tîm Rheoli Llygredd yn ddeublyg:-
- Ymchwilio i gwynion ynghylch swn a wneir gan aelodau’r cyhoedd.
- Cynghori ynghylch datblygiad ffynonellau swn posib neu weithgareddau swnllyd a lleihau effaith swn ar bobl, yn enwedig y rheini sy’n effeithio ar amgylchedd eu cartref.


Rhoi adborth ar y tudalen hon