| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Tir Halogedig

Gyda Deddf yr Amgylchedd 1995 daeth y gofyn i Awdurdodau Lleol gymryd rôl arweiniol wrth glustnodi ac asesu tir halogedig o fewn eu hardal.   Tir y gellir ystyried ei fod yn halogedig dan y darpariaethau hyn ydy unrhyw dir o fewn ein Hawdurdod y gellir dangos ei fod naill ai’n achosi niwed arwyddocaol, neu’n creu perygl difrifol o niwed oherwydd sylweddau yn, ar, neu o dan y tir hwnnw.

Mae dulliau ar gael inni i fynnu bod unrhyw dir a glustnodir dan y broses hon yn cael ei adfer gan y sawl sy’n gyfrifol am yr halogi, neu gan berchennog y tir.

Ble mae’r perygl yn golygu’r posibiliadau o lygru dyfroedd rheoledig, neu fod y safle yn ‘safle arbennig’, cyfrifoldeb Asiantaeth yr Amgylchedd fydd ymchwilio i, asesu, neu orfodi adferiad.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0