| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Opsiynau i gael tŷ

Opsiynau i gael tŷ

Os oes gennych broblem digartrefedd, gall y Cyngor roi cyngor i chi ynghylch yr opsiynau sydd ar gael, un ai dros y ffôn, neu’n well fyth [mae’n ei gwneud yn haws i ddelio gydag unrhyw waith papur] trwy gwrdd â chi wyneb yn wyneb yn un o’n sesiynau taro i mewn. Y cyntaf yn y byd y rhowch chi wybod i ni, y mwyaf niferus fydd yr opsiynau sydd ar gael. Mae hwn yn gam pwysig iawn gan y gall olygu y bydd yn gyfrwng i osgoi digartrefedd yn gyfan gwbl.

Yn ystod y cyfweliad Opsiynau Tai bydd eich sefyllfa yn cael ei hasesu; byddwch yn cael cyngor neu fe ofynnir i chi gysylltu ymhellach gyda’r Swyddog Atal Digartrefedd [gweler yr adran Atal Digartrefedd], neu, o bosib, i drefnu cyfweliad er mwyn gwneud cais digartrefedd ffurfiol, os bydd hynny’n briodol.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0