| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Ceisiadau Digartrefedd Ffurfiol

Ceisiadau Digartrefedd Ffurfiol

Ymdrinnir â phob achos o ddigartrefedd yn unigol ac er mwyn i wybodaeth gael ei chywain am eich amgylchiadau fe ofynnir i chi fynychu cyfweliad gyda’r Swyddog Asesu Digartrefedd. Yn ystod y cyfweliad hwn fe ofynnir i chi am wybodaeth er mwyn canfod a ydych chi’n:

  • Teilyngu cymorth
  • Yn ddigartref
  • Ag angen sy’n haeddu blaenoriaeth
  • Yn fwriadol ddigartref
  • Â chysylltiadau lleol

Yn  teilyngu cymorth

Gan fwyaf, mae hyn yn ymwneud â’r sawl sydd wedi bod yn byw dramor.

Digartref

Diffinnir hyn, yn ôl y gyfraith, fel bod heb lety y mae gan ddeiliad hawl i drigo ynddo un ai’n gyfredol nau am lai nag 28 niwrnod. [Felly, hyd yn oed os oes gan rywun Rybudd i Ymadael, nid yw hynny’n golygu eu bod yn ddigartref]

Ag angen sy’n haeddu blaenoriaeth

Dim ond i bobl a ddiffinnir fel rhai sydd ag angen sy’n haeddu blaenoriaeth y mae gan y Cyngor ddyletswydd i ddarparu llety, hyd yn oed os mai llety dros dro yw hwnnw.

Gallwch fod ag angen sy’n haeddu blaenoriaeth os ydych chi:

  • yn feichiog
  • â phlant dibynnol yn byw gyda chi
  • yn analluog i ddod o hyd i dŷ am eich bod yn ddifrifol wael
    neu’n wirioneddol anabl
  • yn ddigartref oherwydd tân neu lifogydd
  • yn 16 neu’n 17 oed
  • yn gadael y lluoedd arfog
  • wedi eich rhyddhau o’r carchar a heb do uwch eich pen

Yn fwriadol ddigartref

Bydd y Cyngor yn ymchwilio unrhyw weithred a arweiniodd at lety yn cael ei golli [e.e. Adfeddiant Morgais] neu unrhyw gamau  rhesymol na chafodd eu cymryd, a hynny’n fwriadol [e.e. Budd-daliadau y gellid eu hawlio ond na wnaed cais amdanynt]

 chysylltiadau lleol

Bydd ail-leoli tymor hir mewn tŷ yn dibynnu ar y cyfan o’r uchod ac ar gysylltiad lleol gyda Sir Ddinbych. Diffinnir cysylltiad lleol fel preswyliad o chwe mis o’r deuddeg mis blaenorol yn y Sir neu dair blynedd o’r pum blwyddyn flaenorol, swydd barhaol, neu fod â theulu agos wedi bod yn byw yn yr ardal am fwy na phum mlynedd.

Dylid nodi:

Mae cyfraith digartrefedd yn gymhleth iawn ac felly mae’n amhosibl rhoi mwy nag amlinelliad byr ar y tudalennau hyn.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0