| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Y Swyddog Atal Digartrefedd

Y Swyddog Atal Digartrefedd

Mae’r Swyddog Atal Digartrefedd yn ymchwilio er mwyn gweld a yw’n bosibl i bobl a ystyrir fel rhai sydd ag angen sy’n haeddu blaenoriaeth. e.e. gyda phlant dibynnol, yn gallu ystyried opsiynau eraill ar wahân i wneud cais am lety dan y gyfraith lety os yw eu tenantiaeth/trwydded yn dirwyn i ben.

Mae dau reswm am hyn:

  1. mae’r broses ddigartrefedd ffurfiol yn straenllyd ac yn gyfreithiol gymhleth,
  2. mae nifer yr eiddo sydd gan y Cyngor i’w gosod yn gostwng yn barhaus ac nid oes modd  iddo roi llety i’r mwyafrif o bobl ddigartref mewn llety parhaol yn gyflym.

Mae’r Swyddog Atal Digartrefedd yn edrych ar dri opsiwn bob amser:

  1. Gweld a oes unrhyw fodd o sicrhau bod teulu yn gallu aros yn eu llety presennol, hyd  yn oed os mai am gyfnod byr y bydd hynny
  2. Edrych ar hawliau cyfreithiol, ac os bydd angen, gofyn am gyngor arbenigol
  3. Gweld a oes modd, trwy gydweithio, [weithiau gyda chymorth y landlord neu’r deiliad]  sicrhau newid yn ddidrafferth trwy symud i lety amgen yn y sector preifat

Mae atal digartrefedd yn cymryd amser ac felly os oes Gorchymyn Meddiant o’r Llys fe ddylid gwneud cais digartrefedd ffurfiol.

Mae gan yr Adran Tai gysylltiadau gyda lleiafrif o landlordiaid preifat eiddo lleol. Ambell waith, rhoddir gwybod i ni am leoedd gweigion, ond nifer fach iawn o’r rhain sydd ar gael. Os bydd lleoedd gweigion ar gael, y ffordd decaf yw cyflwyno nifer o geisiadau a gadael i’r landlord benderfynu. Mae tenantiaethau yn debygol o barhau am fwy o amser os bydd perthynas weithio dda yn bodoli rhwng y landlord a’r tenant.

I dderbyn rhagor o wybodaeth, dylech gysylltu gyda’r Swyddog Atal Digartrefedd.

Yn ogystal, mae llawer o bobl wedi llwyddo i ddod i gysylltiad gyda landlordiaid a gwerthwyr tai eu hunain.  Gofynnir i chi chwilio am hysbysebion mewn ffenestri siopau a phapurau newydd, a gofyn i ffrindiau, perthnasau a chydweithwyr os ydynt yn gwybod am unrhyw letyau sydd ar gael.


 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0