Landlordiaid Preifat
Llety i bobl ddi gartref yn y sector preifat
Mae'r Cyngor Sir bob amser yn dymuno gweithio hefo tirfeddianwyr o'r sector preifat i helpu hefo ein dyletswyddau i ail gartrefu grwpiau o bobl di gartref, y mae gennym ddyletswydd statudol tuag atynt.
Byddwn yn ystyried eiddo ym mhob rhan o'r Sir, yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth yr adeg hynny. Gall eiddo fod ar gael tros dro neu am gyfnod hirach a bydd ein Tîm Digartrefedd yn gallu darparu cyflenwad o reolaeth a chymorth i denantiaid a thirfeddianwyr mewn sawl achos.
Rydym hefyd yn cynghori ac yn cyfeirio pobl sydd angen tai at dirfeddianwyr cymeradwy .
Cyn y gall y Cyngor ystyried tirfeddianwyr rhaid i eiddo fod o safon dda, hefo tystysgrif diogelwch cyfredol am dân, nwy a thrydan.
Caiff yr eiddo ei archwilio gan Swyddogion Tai cyn ei osod a rhaid wrth gwrs gadw at ddeddfwriaeth e.e. rhaid i dai aml breswyliaeth (multiple occupation) gael eu trwyddedu o dan Ddeddf Tai 2004.
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch
Swyddog llety tros dro,
Cyngor Sir Ddinbych,
Gwasanaethau Tai,
64 Ffordd Brighton,
Rhyl,
LL18 3HP
Rhif ffôn: - 01824 712943 e-bostiwch: - housing@denbighshire.gov.uk

Rhoi adborth ar y tudalen hon