Blaendal Diogelu
Blaendal Diogelu
Os bydd eich teulu yn perthyn i’r categori ‘angen sy’n haeddu blaenoriaeth’ fe all fod yn bosibl i’r cyngor ddarparu, dan amodau caeth, flaendal diogelu ad-daladwy ar eich rhan. Dyma’r amodau hynny:
- ni all yr eiddo fod rhy fawr neu’n rhy fach ar gyfer maint eich teulu
- eich bod yn gwneud cais i’r Gwasanaeth Swyddog Rhent am Benderfyniad Cyd-denantiaeth - mewn geiriau eraill, yr hyn yr ystyrir yn rhent teg ar gyfer yr eiddo dan sylw, gan na fydd y Budd-dal Tai yn talu mwy na hynny.
- eich bod yn gallu dangos bod modd i chi lenwi’r bwlch, o’ch cyflog neu unrhyw fudd-daliadau eraill, rhwng unrhyw daliad Budd-dal Tai a’r rhent sy’n daladwy i’r landlord a gwneud hynny heb i chi fod yn gadael eich hun yn brin o arian fel na fyddwch yn gallu parhau gyda’r denantiaeth. (Gallwch wneud hyn trwy gwblhau ffurflen incwm a gwariant. O.N.: Nid yw’n fuddiol o gwbl i chi na neb arall os na fydd y ffigyrau a ddefnyddiwch yn rhai realistig. Does dim pwrpas i chi fod yn ddigartref eto mewn chwe mis. Mae cyfraith Digartrefedd yn gorfodi’r Cyngor i ystyried anwireddau bwriadol wrth iddo wneud penderfyniadau].
- Eich bod yn cytuno i wiriad budd-daliadau lles er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn yr holl hawliannau sy’n ddyledus i chi er mwyn sicrhau bod rhentu preifat yn fforddiadwy i chi.
Os byddwch chi’n gallu cwrdd yn llawn â’r holl amodau hyn fe all y Cyngor dalu’r hyn sy’n gyfwerth â rhent un mis ymlaen llaw fel blaendal diogelu ac yn ‘brys-dracio’ unrhyw gais am Fudd-dal Tai er mwyn osgoi unrhyw oedi.

Rhoi adborth ar y tudalen hon