Tai Lleol i Bobl Leol !
Erioed wedi meddwl:
‘Allwn i byth fforddio fy nghartref fy hun’
Ddim yn Gwybod Beth Mae Hyn i Gyd yn ei Olygu? Gadewch i mi esbonio ………
Gall Perchnogaeth Tai yn Rhad fod ar sawl ffurf. Mae yna dair ffordd i brynu i mewn neu berchnogi eich eiddo eich hun.
Perchnogaeth a Rennir: Prynwch gyfran o eiddo newydd neu eiddo arall gan Gymdeithas Tai. Dowch chi o hyd i forgais neu gyllid ar gyfer rhwng 40% a 75% o werth y farchnad gyfredol a thalu rhent fforddiadwy i’r Gymdeithas ar y gweddill. Fe ystyrir y tŷ yn eiddo i chi a chi fydd yn gyfrifol am drwsio a chynnal a chadw’r eiddo. Fe allwch, yn y dyfodol, brynu mwy o’ch cartref a thalu llai o rent, gan esgyn fesul gris nes eich bod wedi cyrraedd 100% ac yn berchen ar eich cartref eich hun.
Prynu: Rydych yn dewis eiddo ar y farchnad agored a chan ariannu 70% o bris y farchnad fe allwch dderbyn benthyciad o 30% tuag at y gost. Ni fyddwch chi’n talu dim tuag at y benthyciad am gyn hired ag y byddwch chi’n aros yn yr eiddo. Yn y dyfodol os byddwch chi am werthu’r eiddo am bris y farchnad gyfredol, yna fe fyddwch yn talu’r 30% yn ôl a gwneud proffid ar eich 70% gobeithio.
Perchnogaeth Tŷ yn Rhad:
Mae’r eiddo newydd sbon hyn wedi eu rhoi ar ddisgownt dan gynllun y llywodraeth ac fe’i gwerthir i bobl sydd ar Restr Aros CLlCT am ffracsiwn o’u gwerth ar y farchnad gyfredol. Fe ddylai unrhyw ddatblygiad newydd yn eich ardal chi sydd dros 3 uned yn eu maint fod â chanran o unedau fforddiadwy yn eu plith i’w cynnig i bobl ar restr aros yr CLlCT. Fe allai mai CHI fyddai’r person hwnnw!
Am wybod mwy ? ……
Cysylltwch â’r Tîm Tai Fforddiadwy yng Nghymdeithas Tai Clwyd ar 0845 2303140 i’ch rhoi ar restr yr CLlCT neu i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i ddringo ar yr ysgol dai.


Rhoi adborth ar y tudalen hon