| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Hwylusydd Tai Gwledig
tai

TAI GWLEDIG  - GALLUOGYDD (ENABLER)

Mae darparu tai fforddiadwy i bobl leol yn fater allweddol sy'n wynebu ardaloedd gwledig yn Sir Ddinbych.  Mae prisiau tai mewn sawl ardal wledig yn Sir Ddinbych wedi cynyddu'n sylweddol ac mae llawer o bobl ar incwm isel yn methu mynd i mewn i'r farchnad dai .

Mae prosiect Sir Ddinbych / Conwy yn cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cymdeithas Tai Clwyd, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir Conwy ac Awdurdod  Parc Cenedlaethol Eryri. Cyflogir rhwydwaith o bobl ar draws Cymru a gwnaed arolygon er mwyn gwneud cymariaethau ar draws Cymru gyfan.

Rôl y swyddog galluogi yw gweithio hefo cymunedau gwledig trwy roi cyngor a chymorth a'u helpu trwy broses gymhleth darparu tai fforddiadwy. Mae hyn yn cynnwys gweithio hefo cynghorau cymunedol, tirfeddianwyr lleol a chymdeithasau tai a mudiadau eraill. Rhan o'r broses yw gwneud arolygon lleol i roi tystiolaeth am yr angen lleol am dai. 

Astudiaeth achos:  gweithio hefo'r gymuned leol

Mae Cais Cynllunio i dri thŷ wedi'i gyflwyno o ganlyniad i weithio hefo cymuned leol ym Mhentredwr, Llangollen. Mae'r cais yn groes i'r Cynllun Datblygiad Unedol. Caiff ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio a gan y Cyngor Sir llawn. Gwneir gwaith ymchwil i ffyrdd o wneud y datblygiad hwn yn gynaliadwy yn nhermau effeithlonrwydd egni e.e. tyrbinau gwynt, cynhesu  etc.

Rhoddir crynodeb o ganlyniadau 17 arolwg a wnaed yn Sir Ddinbych ar y linc.

Mae'r grŵp llywio yn chwilio am ffyrdd i ddatblygu'r prosiect. Mae'r swydd Galluogwr Tai Gwledig yn wag ar hyn o bryd.

I gael mwy o wybodaeth  ffoniwch Gymdeithas Tai Clwyd ar 01745 815220

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0