Gwasanaethau Tenantiaeth
Mae’r Gwasanaethau Tenantiaeth yn cynnwys gwahanol lefelau o arbenigrwydd, gan gynnwys Rheolaeth Stadau, Dyraniadau, Digartrefedd, Y Gwasanaethau Cefnogaeth Lles a’r Adrannau Cynnal.
Rheolaeth Stadau
Caiff y Stadau eu rhannu’n ardaloedd tîm. Lleolir un tîm yn Ffordd Brighton, Y Rhyl ac un arall yn Neuadd y Sir, Rhuthun. Mae’r ardaloedd y gofelir amdanynt gan bob tîm fel a ganlyn:
Gogledd Sir Ddinbych
Y Rhyl, Prestatyn, Dyserth, Rhuddlan,
De Sir Ddinbych
Bodelwyddan, Cwm, Y Waen, Llanelwy, Cefnmeiriadog, Trefnant, Tremeirchion, Henllan, Bodfari, Dinbych, Aberchwiler, Nantglyn, Llanrhaeadr, Llandyrnog, Cyffylliog, Llanynys, Llanferres, Llangynhafal, Ruthun, Llanbedr, Clocaenog, Llanfair, Llanarmon, Llanelidan, Llandegla, Bryneglwys, Gwyddelwern, Llantysilio, Corwen, Cynwyd, Llandrillo, Llangollen, Betws Gwerfyl Goch.
Mae pob tîm yn cael ei arwain ân Uwch Swyddog Tai sydd â chyfrifoldeb am ddarpariaeth y ffwythiannau rheolaeth Stadau. O ddydd i ddydd caiff y drefn hon ei gweinyddu trwy’r Swyddogion Tai sy’n gweithio yn yr ardaloedd unigol ac mae eu prif ddyletswyddau yn cynnwys:
• cynnal arolygiadau rheolaidd o stadau,
• eiddo anghyfannedd,
• gwirio daliadaeth,
• ymweliadau cartref,
• archwilio eiddo,
• aseiniad,
• olyniaeth,
• trosglwyddiad,
• cyfnewid y naill a’r llall,
• anghydfod rhwng cymdogion,
• ymchwilio ymddygiad gwrthgymdeithasol,
• rheolaeth rhenti/ôl-ddyledion,
• gweithrediad gorfodaeth
• a rhoi cymorth a chyngor i denantiaid ynghylch telerau ac amodau eu cytundeb tenantiaeth.
Yn ychwanegol at hynny bydd y Swyddogion Tai yn cydweithio’n fynych gydag Adrannau eraill yn y Cyngor a gydag asiantaethau megis Darparwyr Tai Lleol, Y Gwasanaethau Cymdeithasol, Budd-daliadau Tai, Hawliau Lles, Cyngor ar Bopeth a Heddlu Gogledd Cymru.

Rhoi adborth ar y tudalen hon