Sut wyf i'n rhoi fy enw ar y rhestr aros
SUT WYF I’N RHOI FY ENW AR Y RHESTR AROS?
Yn gyntaf, bydd angen ichi lenwi Ffurflen Gais.
Arweiniad i'r Polisi a'r Drefn Ddosrannu.
I ofyn am ffurflen - a wnewch chi gysylltu ag un o’r swyddfeydd canlynol os gwelwch yn dda:-
Rhif Ffôn Cyffredinol Y Rhyl:
01824 708367
Rhif Ffôn Cyffredinol Rhuthun:
01824 708367
Y RHYL
64 FFORDD BRIGHTON
Y RHYL
SIR DDINBYCH
LL18 3HP
RHUTHUN
NEUADD Y SIR, FFORDD WYNNSTAY,
RHUTHUN,
SIR DDINBYCH,
LL15 1YN.
Unwaith y bydd y Gwasanaethau Tai wedi derbyn eich Ffurflen Gais wedi’i llenwi byddwn yn anfon llythyr cydnabyddiaeth atoch. Mewn rhai amgylchiadau fe allem ofyn ichi wneud apwyntiad ar gyfer ymweliad cartref gan Swyddog Tai.
Bydd Swyddogion Tai bob amser yn helpu gydag unrhyw anawsterau y gallech eu cael wrth lenwi eich ffurflen.
Yn dilyn yr ymweliad bydd eich cais yn cael ei roi naill ai ar restr ar gyfer Pobl Oedrannus neu Lety Gwarchodol neu Restr Aros Tai Anghenion Cyffredinol.

Rhoi adborth ar y tudalen hon