Y Llinell Ofal
Adran Tai
Llinell Ofal Conwy
Help pan fyddwch ei angen, a dim ond pan fyddwch ei angen
Yn rhoi:
• hyder;
• sicrwydd;
• tawelwch meddwl; ac
• annibyniaeth
i chi a’ch teulu.
Cyflwyno Llinell Ofal Conwy
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwerthfawrogi eu hannibyniaeth ac yn hoffi bod â rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. Rhan o gymryd rheolaeth dros eich bywyd yw gwneud yn siˆwr y gallwch gael help os bydd ei angen arnoch. Efallai na fyddwch eisiau gofyn i ffrindiau, teulu a chymdogion am help bob amser mewn achos brys, ac weithiau, gall fod yn anodd meddwl pwy arall all eich helpu. Hefyd, ni all unrhyw un sicrhau ei bod ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, rhag ofn y byddwch eu hangen. Dyma lle rydym ni (Llinell Ofal Conwy) yn gallu eich helpu. Rydym yn cynnig gwasanaethau amrywiol sy’n cynnwys:
• -system alw bersonol gyfrinachol fel y gallwch siarad efo rhywun neu alw am help hyd yn oed os na allwch gyrraedd y ffon;
• -system diogelu’r cartref gyda dewis o synwyryddion, i gyd wedi eu cysylltu i’n canolfan ymateb; a
• -‘KeySafe’, alternatif diogel rhag gadael allwedd efo’ch cymdogion neu o dan y mat.
Os byddwch yn ymuno efo ni, rydym yn eich sicrhau y cewch help a chefnogaeth unrhyw bryd y byddwch ei angen. Nid oes unrhyw synnwyr rhwymedigaeth i eraill ac ni fyddwch yn colli annibyniaeth, ond byddwch yn sicr o gael tawelwch meddwl
Am fwy o fanylion cysylltwch â:-
GWASANAETHAU TAI
64 Ffordd Brighton
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 3HP
Ffôn : 01824 712935

Rhoi adborth ar y tudalen hon