Strategaeth Tai Lleol
Mae’r Strategaeth Tai Lleol yn dangos y sefyllfa bresennol ynghylch tai lleol o bob math o ddaliadaeth ac yn darparu cyfeiriad strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae’n cynnwys llawer o broblemau tai allweddol gan gynnwys tai fforddiadwy, digartrefedd a chyflwr eiddo. Dyma’r ail fersiwn ffurfiol o’r strategaeth ac mae wedi’i diwygio’n llwyr ar ôl ymgynghori’n eang gyda thrigolion ac asiantaethau yn Sir Ddinbych (Gweler Atodiad A). Mae’r strategaeth yn darparu fframwaith sy’n ein galluogi i fidio am grantiau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu tai newydd.
Yr weledigaeth ar gyfer tai yn Sir Ddinbych yw “Y bydd gan bawb gyfle i gael tŷ fforddiadwy o ansawdd da wedi’i gynllunio i gyfarfod â’u hanghenion yn awr ac yn y dyfodol, a ydynt yn dewis rhentu neu brynu tŷ yn Sir Ddinbych”.
Mae’r Cynlluniau Gweithredol isod yn rhoi manylion o’r hyn sydd wedi’i wneud ac sydd ar y gweill o ran tai. Mae’r rhain yn cael eu diweddaru’n flynyddol maent yn cynnwys gwybodaeth hanfodol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn tai yn Sir Ddinbych.
Gwnaed cynnydd arwyddocaol ers fersiwn gyntaf y Strategaeth Tai Lleol yn 2004 gan gynnwys:
- Polisi tai fforddiadwy'r Sir sydd, ar y cyd gyda chymdeithasau tai lleol a datblygwyr preifat, wedi cwblhau 40 o unedau fforddiadwy, gyda 33 o unedau’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd.
- Datblygu Rhestr Perchnogaeth Tai Cost Isel i gysylltu’r rhai sydd angen rhannu perchnogaeth a / neu berchnogaeth tai cost isel gyda’r llety fforddiadwy sydd ar gael.
- Llwyddiant tîm digartrefedd y Cyngor yn 2006 / 07 wrth ddileu’r defnydd o lety gwely a brecwast ar gyfer teuluoedd digartref ac eithrio mewn argyfwng.
- Gwella dewisiadau o dai i bobl hŷn drwy ddatblygu llety gofal ychwanegol a llety newydd yn y sector breifat.
- Mae tîm Sector Preifat y Cyngor wedi cyflwyno cynllun hynod lwyddiannus Houseproud ac wedi gwneud 450 o aneddleoedd yn addas drwy gynnig cymorth grant a mesurau gorfodaeth.
- Mae cymdeithasau tai a’r Cyngor yn buddsoddi’n drwm er mwyn gwella ansawdd eu stoc tai er mwyn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y strategaeth, cysylltwch â’r Swyddog Strategaeth Dai:
Ffôn: 01824 712932

Rhoi adborth ar y tudalen hon