Gall asesu statudol fod yn broses sy’n creu dryswch. Mae llawer o rieni yn dymuno cael rhywun i’w cynorthwyo pan gynhyrchir datganiad eu plentyn am y tro cyntaf. Mae’r Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig yn gwneud darpariaethau ar gyfer hyn:
Cyn i chi dderbyn copi o ddatganiad terfynol eich plentyn, mae’n rhaid i’r Awdurdod Addysg eich hysbysu yn ysgrifenedig am enw unigolyn a all roi gwybodaeth a chefnogaeth o ran anghenion addysgol arbennig eich plentyn a sut y dylid eu diwallu. Hwn yw’r Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni.
Ymhlith pethau eraill, bydd y Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni yn:
- eich cefnogi yn eich trafodaethau â’r rhai sy’n ymwneud â phenderfynu ynghylch datganiad eich plentyn. Bydd y Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni yn eich cynorthwyo i fynegi eich safbwynt.
- rhoi gwybodaeth i chi ynghylch eich hawliau a’ch cyfrifoldebau o dan y Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig.
- rhoi gwybodaeth am anghenion arbennig yn gyffredinol. Os nad yw’r Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni yn gwybod yr ateb, yna bydd yn gwybod lle i droi i gael yr ateb.
- gweithredu fel rhywun sy’n deall ac yn cydymdeimlo ac yn gallu cynorthwyo’n gyffredinol.
Ymhlith pethau eraill, dylai’r Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni fod:
- yn annibynnol ar yr Awdurdod Addysg
- feddu ar sgiliau negodi a chefnogi
- yn gyfarwydd â’r Cod Ymarfer Anghenion Arbennig
- â pheth gwybodaeth am anghenion arbennig a darpariaeth anghenion arbennig lleol.
Yn y sir hon rydym wedi llunio trefniant gyda SNAP Cymru iddynt ddarparu cynrychiolydd Partneriaeth Rhieni ar gyfer Datganiad Arfaethedig pob plentyn, os gwneir cais am hyn.
Pan fyddwch yn derbyn Datganiad Arfaethedig eich plentyn, byddwch yn derbyn ffurflen ddewisiadau a fydd yn nodi enw, cyfeiriad a rhif ffôn SNAP Cymru. Y cyfan mae’n rhaid i chi ei wneud yw ysgrifennu atynt neu eu ffonio, a byddant yn gwneud y gweddill. Bydd y ffurflen ddewisiadau hefyd yn caniatáu i chi hysbysu’r Awdurdod Addysg ynghylch enw’r unigolyn a enwebwyd gennych i weithredu ar eich rhan.
Nid oes raid i chi ddefnyddio SNAP. Os oes gennych unigolyn neu fudiad arall sy’n fodlon gweithredu ar eich rhan yn y swyddogaeth hon, mae croeso i chi eu henwebu. (Fodd bynnag, ni fydd yr Awdurdod Addysg yn fodlon talu unrhyw ffioedd sy’n deillio o hyn.)
Cewch ddefnyddio’r ffurflen ddewisiadau i hysbysu’r Awdurdod Addysg pwy yr hoffech iddynt weithredu ar eich rhan, ond nid yw’n ofynnol i chi ddefnyddio’r Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni. Fodd bynnag, hoffwn eich annog i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ac rwy’n gobeithio y bydd yn wasanaeth buddiol a fydd o ddefnydd i chi.
Gellir cysylltu â’r
Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni (SNAP) yn
SNAP Cymru, Uned 12, Llys Onnen, Ffordd y Llyn, Parc Menai, Bangor, LL57 4DF.
Rhif ffôn: 0845 1203730
Minicom: 0845 1228673
Mae NCH Cymru/Cyfryngu Teuluol Cymru yn cynnig y Gwasanaeth Datrys Anghydfod Anghenion Addysgol Arbennig, sy’n cynnwys gwasanaeth cyfryngu lle bo anghytuno rhwng y rhieni, yr ysgol neu’r awdurdod addysg lleol ynghylch plentyn ag anghenion addysgol arbennig.
Y rhif ffôn am ddim yw: 0800 3896 037.
Hefyd cewch gysylltu â Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru.
Rhif y llinell gymorth yw: 01597 829800. Gwnant anfon unrhyw gwestiynau neu anfon copi o lyfrynnau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, ‘How to Appeal’ a/neu ‘How to claim’
,


Rhoi adborth ar y tudalen hon