Cludiant Ysgol
Ein nod yw darparu cludiant cyfforddus, diogel a dibynadwy i’n disgyblion. Ceir manylion llawn yn y ddogfen Canllawiau Gwybodaeth i Ysgolion ac mae croeso i chi gael rhagor o wybodaeth gan y Swyddog Cludiant a Derbyniadau drwy’r cyfeiriad e-bost.
- Darperir cludiant am ddim i blant oedran ysgol statudol (4 – 16 oed) sy’n byw mwy na thair milltir o’u hysgol briodol agosaf (dwy filltir i blant dan 8 oed).
- Darperir cludiant am ddim hefyd i ddisgyblion sy’n byw ymhellach na’r pellteroedd hyn os ydynt yn mynychu’r ysgol wirfoddol neu’r ysgol cyfrwng Cymraeg agosaf, ac i ddisgyblion ôl 16 ac os yw’r awdurdod yn ystyried bod y ffordd i’r ysgol yn un ‘beryglus’.
- Gellir darparu cludiant am ddim i blant â datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig sy’n mynychu ysgol benodol.

Rhoi adborth ar y tudalen hon