| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Newyddion Traffig
Roadworks

Newyddion Traffig

Dan y Ddeddf Rheoli Traffig 2004, mae’r holl waith ar y priffyrdd cyhoeddus, yn cynnwys cynnal a chadw priffyrdd, sy’n cael eu gwneud gan gwmnïau statudol (cwmnïau nwy, dŵr, trydan a rhwydwaith ffôn) yn cael ei gydlynu gan ein is-adran Gwaith Stryd.  Mae hyn yn cynnwys gwaith ar ffyrdd o bob dosbarth, yn cynnwys cefnffyrdd, a dylai arwain at lai o dagfeydd o ganlyniad i well cynllunio a chydlynu’r gwaith.   
Tra ein bod ni’n ceisio cynllunio’r holl waith ar y ffyrdd ymlaen llaw, nid yw hyn yn bosibl bob amser oherwydd argyfyngau lle bo angen gwaith trwsio ar frys.  Rydym yn nodi dyddiadau dechrau a gorffen gwaith ond gall y rhain newid oherwydd amgylchiadau nad oedd modd eu rhagfynegi, megis y tywydd neu argyfwng mewn lleoliad arall. 
Os ydych chi’n cynllunio taith ffordd sy’n cychwyn neu’n gorffen yn Sir Ddinbych, neu’n mynd drwy’r sir ar eich taith, mae’r gwedudalennau a ganlyn yn darparu gwybodaeth leol a chenedlaethol am waith ffyrdd a gwybodaeth traffig cyffredinol. 
Cliciwch ar y cyswllt isod am fanylion y gwaith ffyrdd presennol yn Sir Ddinbych.


Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0