Hygyrchedd - Dileu rhwystrau i gael gwybodaeth
Ein nod yw gwneud y wefan www.denbighshire.gov.uk fod ar gael i gymaint o bobl â phosibl. Gobeithio y gallwch gael atebion i’ch cwestiynau’n gyflym a phori’n rhwydd yn y wefan. Treuliwch ychydig o amser os gwelwch yn dda yn edrych ar y gwahanol opsiynau sydd ar gael i’ch cynorthwyo yn eich profiad rhyngweithiol.
Rheoli Maint Ffont
Y ffordd hawsaf i newid maint testun yw defnyddio ein Rheolydd Maint Ffont A | A | A |. Gellir canfod hwn ar frig y tudalen ar yr ochr chwith. Mae’r tair A yn cynrychioli testun y wefan. Trwy glicio ar un ohonynt, bydd holl destun y prif dudalen yn newid i fersiwn llai neu fwy. Mae’r A canol yn cynrychioli’r maint safonol.
Tudalennau llafar
Ein nod yw darparu gwefan sydd yn gynhwysol a hygyrch i holl ddefnyddwyr, er gwaethaf cyfyngiadau technolegol neu anabledd. Mae 'BrowseAloud' yn rhaglen meddalwedd fechan sy’n defnyddio system ‘testun i lafar’ sy’n eich galluogi i wrando ar ein tudalennau gwe. Yr unig beth sydd eisiau arnoch yw set o glustffonau neu seinyddion wedi eu cysylltu i’ch cyfrifiadur. Yna dilynwch y linc isod at wefan ‘BrowseAloud’ a llwytho i lawr y feddalwedd berthnasol.
http://www.browsealoud.com/page.asp?pg_id=80004
Newid Iaith
Rydym yn cydymffurfio ag argymhellion Bwrdd yr Iaith Gymraeg ynglŷn â chynnwys dwyieithog. Gellir yn hawdd canfod cyfleuster newid iaith Cymraeg / Saesneg ar frig y tudalen ar yr ochr dde. Trwy glicio ar hwn bydd cynnwys yr holl dudalen yn cael ei gyfieithu i’r iaith arall. Bydd hefyd yn cyfieithu gweddill y wefan. Felly er mwyn gwe-lywio yn yr iaith wreiddiol, rhaid i chi newid yn ôl eto.
Cydraniad Sgrin
Cymerwyd y gwahanol gydraniadau sgrin i ystyriaeth yn ystod dylunio’r safle gwe, felly gwelwch ei fod yn gweithredu’n gywir yn yr holl gydraniadau 800x600 - 1152x864 picseli.
Ceir opsiynau y gellir eu gosod yn y rhan fwyaf o borwyr i wella hygyrchedd. Yn Internet Explorer dewiswch Tools o’r ddewislen ar dop y sgrin, ac yna dewiswch Internet Options. Cliciwch y botwm Accessibility, ac fe welwch nifer o opsiynau y gallwch droi ymlaen neu ddiffodd. Er enghraifft, gallwch wrthwneud gosodiadau maint tudalen o’r we fel y gallwch ddewis y maint rydych eisiau.
Gweld Tudalen Lawn
Er mwyn gweld y sgrin lawn a dileu rhai barrau llywio, gwasgwch fysell F11 unwaith.
Gwasgwch o eto er mwyn mynd yn ôl at y bar llywio a llun gwreiddiol eich porwr .
Adobe Acrobat PDF a Dogfennau Word
Cyhoeddir nifer o ddogfennau ac adroddiadau o fewn y wefan mewn PDF (Portable Document Format), a hefyd yn Microsoft Word fel arfer.
I agor ffeiliau PDF, rhaid i chi fod ag Adobe® Acrobat® Reader wedi ei osod:
http://www.adobe.com/products/acrobat/readstep2.html
Delweddau a thagiau Alt
Rydym wedi osgoi defnyddio graffigwaith gormodol o fewn y wefan lle bynnag posibl, er mwyn sicrhau amser llwytho i lawr a chael mynediad i wybodaeth na ellir ei ddarllen os yw mewn fformat ddelwedd, yn gyflym. Lle defnyddir delweddau, rydym wedi ychwanegu tagiau 'Alt' - testunau amgen fel y gallwch ddal i wybod beth yw ystyr y ddelwedd hyd yn oed os nad yw’n llwytho, neu os ydych wedi dewis pori gyda’r delweddau wedi eu diffodd neu os ydych yn defnyddio technoleg i’ch helpu, megis pori’r dudalen wefan gyda darllenydd sgrin yn hytrach na’i weld.

Rhoi adborth ar y tudalen hon