| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cymdeithasau Tenantiaid a Phreswylwyr

CYMDEITHASAU TENANTIAID A PHRESWYLWYR

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda Chymdeithasau Tenantiaid a Phreswylwyr sefydlog o amgylch y Sir. Mae’r Cymdeithasau hyn wedi’u sefydlu gan bobl leol i gynrychioli buddiannau tenantiaid a phreswylwyr yn eu hardal. Mae yna dros ddwsin o Gymdeithasau gweithredol sy’n derbyn cymorth gan y Cyngor, yn cynnwys grant blynyddol i helpu gyda chostau cynnal.

Mae’r Cymdeithasau hynny wedi ymuno i ffurfio Ffederasiwn Tenantiaid a Phreswylwyr Sir Ddinbych (D.T.A.R.F.). Mae hyn yn golygu bod yna gorff yn awr sy’n dod â thenantiaid o wahanol rannau o’r Sir at ei gilydd i gwrdd yn rheolaidd gyda’r Cyngor ynghylch materion tai.

Mae llawer rhan o’r Sir nad oes ganddynt Gymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr. Bydd y Cyngor a’r DTARF yn rhoi cefnogaeth i unrhyw grwp lleol sydd eisiau ffurfio Cymdeithas newydd.

Mae hi’n hawdd iawn sefydlu cymdeithas tenantiaid a bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud y cyfan y gallwn i’ch cynorthwyo.

Mae cyflwyno eich barn drwy gymdeithas yn golygu bod gennych bwysau cyfunol grwp ac nid dim ond yn cael eich clywed fel unigolyn gan y Cyngor neu gan asiantaethau eraill y mae arnoch angen eu help.

Mae bod yn rhan o gymdeithas yn golygu bod gennych lais yn y ffordd y mae eich tenantiaeth yn cael ei chynnal.

Fel grwp gellwch ddysgu a datblygu sgiliau newydd.

Fel grwp rydych yn gwneud cyfraniad gwerthfawr tuag at eich cymuned.

Mae yna bump o brif gamau wrth sefydlu Cymdeithas Tenantiaid:-

1. Rhaid ichi agor eich aelodaeth i’r holl denantiaid o fewn eich ardal ddiffiniedig.
2. Rhaid ichi gynnal Cyfarfod Agored a bod â phroses ddemocrataidd ar gyfer ethol pwyllgor i
redeg y corff gyda Chadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd.
3. Cadw cofnodion ariannol priodol y gellir eu harolygu os bydd angen.
4. Pleidleisio mewn cyfansoddiad a fydd yn penderfynu sut y bydd eich cymdeithas yn cael ei rhedeg. Gall Cyngor
Sir Ddinbych a Ffederasiwn Tenantiaid a Phreswylwyr Sir Ddinbych (DTARF) helpu gyda darparu cyfansoddiad enghreifftiol i’ch arwain.
5. Gwahodd Swyddog dynodedig o’r Cyngor i gyfarfod i gadarnhau’r cyfan o’r uchod.

OS BYDDECH YN HOFFI RHAGOR O FANYLION A FYDDECH MOR GAREDIG Â CHYSYLLTU Â’R “SWYDDOG CYFRANOGIAD TENANTIAID” AR RIF FFÔN: 01824 712964


 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0