HAWL I BRYNU
Fel tenant diogel mae gennych yn ôl pob tebyg yr hawl i brynu eich cartref.
Gellwch wneud cais i brynu eich cartref os ydych wedi treulio cyfanswm o ddwy neu bum mlynedd fan leiaf yn denant i’r Cyngor neu landlord “Hawl i Brynu” arall, yn ogystal â rhai cyrff eraill - gofynnwch am fanylion os gwelwch yn dda.
Mae’r Hawl i Brynu yn golygu efallai y gallwch brynu eich cartref drwy dalu’r pris prynu llawn ar unwaith. Fel arfer gellwch brynu am lai nag y byddai’n ei gostio ar y farchnad agored gan y byddwch yn cael disgownt, sy’n dibynnu ar gyfanswm nifer y blynyddoedd yr ydych wedi bod yn denant diogel.
Y disgownt mwyaf sydd ar gael yw rhwng £24,000 a £16,000 o 2il Ebrill 2003.
Mae yna rai eithriadau i’r Hawl i Brynu ac mae hyn yn cynnwys Tai Gwarchodol ar gyfer yr oedrannus neu’r anabl.
I gael manylion llawn ynghylch yr uchod a fyddech mor garedig â ffonio: 01824 712933
I ofyn am ffurflen gais RTB1 a llyfryn gwybodaeth a fyddech mor garedig â ffonio: 01824 712933


Rhoi adborth ar y tudalen hon