Gwella Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles.
Mae’r Bartneriaeth IGCLl, grŵp cynrychioladol o wasanaethau statudol ac anstatudol, yn gyfrifol am ddatblygu’r Strategaeth IGCLl. Mae’r Strategaeth IGCLl nawr yn un o’r 4 prif Strategaeth / Gynllun yn Sir Ddinbych. Mae’n ddyletswydd statudol bod pob Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) ac Awdurdod Lleol (ALl) yn llunio ar y cyd a gweithredu strategaeth ar gyfer iechyd a lles y boblogaeth leol. Amcanion y Strategaeth IGCLl yw gwella iechyd, gofal cymdeithasol a lles pobl Sir Ddinbych.
Bydd y Strategaeth IGCLl yn rhoi cyfle i ni gryfhau ymhellach gydweithrediad ac integreiddiad rhwng holl bartneriaid lleol, yn statudol ac anstatudol. Rhaid iddo ddarparu ymateb cydgysylltiedig trwy ryng-gysylltu a chroesgyfeirio gyda chynlluniau lleol mawrion eraill a chyd-fynd â datblygiad y Fframwaith Gwasanaethau Cymunedol.
Bydd y Strategaeth IGCLl yn brif elfen ar gyfer comisiynu gwasanaethau gwella iechyd a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol!


Rhoi adborth ar y tudalen hon