Mae cariad at lyfrau yn rodd am oes
Mae cariad at lyfrau yn rodd am oes
Sut i rannu llyfrau gyda babis a phlant bach
- Paratowch! Dewiswch le clyd, tawel a llyfr, rigwm neu gân y byddwch chi a’ch babi yn ei fwynhau. Peidiwch â phoeni os ydych yn teimlo’n swil ar y dechrau. Fe ddewch yn well wrth ymarfer.
- Mae babis yn hoffi swn eich llais felly diffoddwch y teledu neu’r radio fel eu bod yn gallu eich clywed.
- Ceisiwch arfer rhannu llyfr bob dydd. Ond, os ydi eich babi wedi diflasu neu’n anniddig, rhowch dro arni eto pan mae o/hi mewn gwell hwyliau.
- Pwyntiwch at y lluniau a siarad am y pethau mae eich babi yn eu hadnabod. Dewiswch bethau cyfarwydd (fel ci neu bêl, er enghraifft) a bydd hyn yn datblygu dealltwriaeth y babi o eiriau.
- Yn fuan iawn bydd eich babi yn dysgu am lyfrau – cychwynnwch yn y blaen a throi’r tudalennau i gadw’r stori i fynd. Yn fuan iawn bydd eich babi yn troi’r tudalennau ac yn ceisio siarad.
- Nid yw union eiriau’r stori yn bwysig. Hyd yn oed os nad ydych yn ddarllennydd da, eich llais a’ch agosatrwydd sy’n bwysig felly peidiwch â phoeni!
- Defnyddiwch leisiau doniol a synnau gwahanol, chwaraewch a cheisiwch gael hwyl! Mae babis wrth eu bodd yn cael eu cosi a’u bownsio i rhythm rhigwm neu stori.
- Mae babis wrth eu bodd yn clywed yr un stori drosodd a thro. Mae’n eu helpu i gofio beth sy’n dod nesaf.
- Cofiwch, nid ar gyfer amser gwely yn unig y mae llyfrau, felly ewch â llyfr gyda chi i siopa neu yn y car.
Mae eich llyfrgell leol yn croesawu babis a phlant bach, ac mae llawer o lyfrau addas yno i’w benthyg yn rhad ac ddim.
Cynhelir sesiynnau stori arbennig ar gyfer babis plant bach yn rheolaidd. Am ragor o wybodaeth ynglyn â Dechrau Da ffoniwch eich llyfrgell leol neu 01824 708218

Rhoi adborth ar y tudalen hon