| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Pam ddylech chi weithio i Sir Ddinbych

Diolch am ymweld â’n gwefan i ddysgu mwy am ein swyddi gweigion yng Nghyngor Sir Ddinbych. Gobeithiwn fod y wybodaeth yn y tudalennau hyn yn eich helpu i ddysgu mwy am ein Sir a’r Cyngor ac yn eich annog i wneud cais am swydd sy’n addas ar gyfer eich sgiliau a’ch dyheadau.

Mae gan Sir Ddinbych lawer i’w gynnig fel lle i fyw a gweithio ynddo ac mae’r Cyngor yn amgylchfyd deinamig, cymhleth ac ymestynnol i weithio ynddo. Os dewch i weithio i’n Cyngor ni, byddwch yn ymuno ag un o nifer o dimau sy’n gyrru’r gyfundrefn yn ei blaen ymlaen ac yn sicrhau ein bod yn cyflwyno ein gwasanaethau i bobl Sir Ddinbych yn y dull gorau posibl.

Ar ôl ymgynghori â’i drigolion, cynhyrchodd y Cyngor ei Weledigaeth i weithio tuag at sicrhau dyfodol gwell i holl bobl Sir Ddinbych. Fel y dywed ein Gweledigaeth, bydd Sir Ddinbych yn 2025 yn lle cyffrous i fyw, gweithio, tyfu a mwynhau bywyd ynddo. Fel y cyflogwr sengl mwyaf yn y Sir, rydym yn cydnabod pwysigrwydd ein rôl o ran gwneud hyn yn realiti.

Gyda gweithlu cymharol fechan o gymharu ag awdurdodau unedol eraill, rydym yn ymfalchïo yn ein hamgylchfyd cyfeillgar, anffurfiol sydd, ynghyd ag ystod o bolisïau blaengar, gwerthoedd cryf a record perfformiad rhagorol, yn ein gwneud y Cyngor Gorau i Weithio Iddo.

Gan ymledu o drefi arfordirol y Rhyl a Phrestatyn trwy Ddyffryn hyfryd Clwyd i Ddyffryn Dyfi, mae amgylchfyd Sir Ddinbych ac ansawdd y bywyd sydd ar gael yn anodd ei guro.

Mae ein polisïau gwaith hyblyg, sy’n cynnwys system hyblyg ddi-graidd ynghyd â’r cyfle i weithio o’ch cartref neu unrhyw leoliad swyddfa, yn rhoi i’n gweithwyr y gallu i gyflawni cydbwysedd gwaith-bywyd sy’n addas ar gyfer eu hanghenion penodol hwy.

Yn ychwanegol at bolisïau gwaith hyblyg, mae gennym hefyd ystod o bolisïau ar gyfer mamau newydd ac sy’n disgwyl, a thadau, ynghyd â rhai gyda chyfrifoldebau gofalu.

Mae’r Cyngor yn cymryd lles ei staff o ddifrif ac fe gawsom ein cydnabod am ein gwaith blaengar a rhagorol ar wella iechyd gyda gwobr Rhagoriaeth Cymru. Rydym hefyd wedi ennill safon iechyd corfforaethol arian. Yn ychwanegol at hyn, mae gennym statws Buddsoddwyr Corfforaethol mewn Pobl ac rydym yn gymwys i ddefnyddio’r symbol “dau dic” sy’n nodi ein bod yn bositif ynglŷn â phobl anabl.

Anogir staff i sefydlu clybiau a rhwydweithiau cymdeithasol, yn enwedig y rhai sy’n hybu cyfrifoldeb cymdeithasol neu fyw’n iach. Mae’r ffaith bod aelodaeth o’r clybiau hyn a’r rhwydweithiau yn mynd ar draws holl lefelau’r Cyngor yn dystiolaeth o’r berthynas dda sy’n bodoli rhwng ein staff.

Mae gwrando ar, cynnwys ac ymgynghori â staff yn bwysig iawn i ni ac mae gennym fecanwaith yn ei le i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae hyn yn cynnwys cinio gwrando, Sioeau Ffordd Arweinydd a Phrif Weithredwr, ymarferion Yn Ôl i’r Llawr, Dyddiau i Ffwrdd i Gyfarwyddiaethau, briffiau bob pythefnos, ac arddangosfeydd Cyflwr y Sir.

Mae ein systemau gwerthuso perfformiad yn rhoi cyfle i staff sefydlu eu hamcanion a’u cynlluniau datblygiad personol eu hunain ac mae ein polisïau hyfforddi yn cefnogi ac annog datblygiad staff. Mae’r Cyngor wedi sefydlu Grŵp Dyfodol ar gyfer gweithwyr newydd ac mae ganddo ei gynllun prentisiaid modern ei hun ynghyd â bod yn rhan o’r Rhaglen Genedlaethol Datblygu Graddedigion.

Roedd staff yn chwarae rhan yn y gwaith o ddrafftio rhai o’n strategaethau a’n polisïau pwysicaf gan gynnwys y Weledigaeth a’r Gwerthoedd Craidd. Dewiswyd y gwerthoedd undod, balchder, parch a gonestrwydd gan y staff eu hunain fel rhai sy’n bwysig i’n cyfundrefn. Fel y mae’n nodi yn y gwerthoedd hyn “rydym yn cymryd balchder yn y gwaith a wnawn a’r hyn rydym yn ei gyflawni fel cyfundrefn”. A dyma sy’n ein gwneud y cyngor gorau i weithio iddo.

Rydym yn gobeithio bod y wybodaeth hon wedi bod o ddefnydd i chi ac wedi eich annog i wneud cais am swydd gyda’r Cyngor; edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0