| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Amodau a Thelerau

Datganiad o Bwrpas

Darperir mapiau’r Arolwg Ordnans ar y wefan hon gan Gyngor Sir Ddinbych dan drwydded gan yr Arolwg Ordnans er mwyn iddo allu cyflawni ei swyddogaeth gyhoeddus o sicrhau bod gwybodaeth gyhoeddus a gedwir am y Cyngor ar gael. Dylai’r rhai sy'n edrych ar y mapiau hyn gysylltu â hawlfraint yr Arolwg Ordnans i gael cyngor os ydynt yn dymuno gael trwydded i ddefnyddio mapiau/data mapiau yr Arolwg Ordnans. Gellir gweld gwefan yr Arolwg Ordnans trwy droi at http://www.ordnancesurvey.co.uk/cymraeg/


Data yr Arolwg Ordnans
Atgynhyrchir o fapiau’r Arolwg Ordnans gyda chaniatâd Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi © Hawlfraint y Goron. Bydd atgynhyrchu heb awdurdod yn torri hawlfraint y Goron, a gallai arwain at erlyniad neu achos sifil.
Rhif Trwydded Cyngor Sir Sir Ddinbych 100023408 (2007)
 Mae yr olygfa o yr awyr yn rhan o fap y mileniwm TM, ©Getmapping Plc
 Gwefan Cyngor Sir Ddinbych – Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd
 Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i sicrhau’r safon uchaf o ran ansawdd y wybodaeth, a gwnaethpwyd pob ymdrech i gyflwyno’r data diweddaraf a chywir. Fodd bynnag, nid yw’r Cyngor yn rhoi unrhyw sicrwydd ynghylch cywirdeb y wybodaeth ar y wefan hon ac ni fydd yn gyfrifol am unrhyw golled, difrod neu anghyfleuster a achosir o ganlyniad i ddibynnu ar wybodaeth o’r fath.
 Nid yw’r Wefan hon yn storio nac yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol am y rhai sy’n defnyddio’r safle yn awtomatig, ac eithrio cyfeiriad IP yr unigolyn hwnnw. Ni chedwir unrhyw wybodaeth amdanoch ac eithrio’r wybodaeth a nodwch yn wirfoddol trwy gyfrwng mecanweithiau adborth megis ffurflenni ar y we neu’r hyn sy’n angenrheidiol ar gyfer system weinyddu gweinydd y Cyngor ar y we. Nid yw’r Cyngor yn defnyddio cookies yn ei safle. Nid yw’r Cyngor yn darparu’r sicrwydd hwn ar gyfer unrhyw safleoedd eraill y gallwch gysylltu â nhw o’r safle hwn oni bai bod y rheiny yn cael eu gweithredu gan y Cyngor hefyd.

Mae cysylltiadau â gwefannau eraill (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig ac ni fydd Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth ar y gwefannau hynny.


Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Oni bai y nodir fel arall, mae Cyngor Sir Ddinbych yn cadw hawlfraint yr holl ddeunydd gwreiddiol a ddangosir ar y wefan hon © 2005.
1.  Cafodd y data dechreuol ei ddigido o Fap Swyddogol Sir Clwyd sydd â’r dyddiad perthnasol, 31 Hydref 1978.
2.  Y map swyddogol yw’r cofnod a gydnabyddir yn gyfreithiol o hawliau tramwy cyhoeddus a chaiff ei newid yn achlysurol wrth i lwybrau gael eu hychwanegu, eu dargyfeirio neu’u cau.  Mae’r map a baratowyd ar gyfer y we yn ymgorffori’r newidiadau hynny a wnaed i’r rhwydwaith llwybrau gan orchmynion cyfreithiol rhwng 31 Hydref 1978 a 26 Hydref 2005 nad ydynt wedi’u hymgorffori yn y map swyddogol presennol.  Caiff map y we ei ddiweddaru’n ysbeidiol gyda hynny’n cael ei reoli gan nifer o ffactorau ac nid bob tro y digwydd newid cyfreithiol.
3.  Caiff y map swyddogol ei adolygu’n barhaus.  Bwriad y map hwn yw bod yn gymorth cyffredinol i’r rheini sydd â diddordeb mewn gwybodaeth am lwybrau.  Dylai unrhyw gwestiynau ynghylch statws cyfreithiol neu’r llwybr gael eu cyfeirio at yr uned Hawliau Tramwy.  Nid cofnod cyfreithiol mo hwn ac nid yw gwallau a hepgoriadau eraill yn rhwymol ar yr awdurdod.
4.  Mae’r Plwyf/Cymunedau a roddir yn adlewyrchu ffiniau plwyfi fel yr oeddynt cyn yr arolwg o ffiniau cymunedau Cymru yn 1983.
5.  Nid yw’r map yn ymgorffori nifer o ffyrdd cyhoeddus i gerbydau heb darmac a llawer o lwybrau cysylltu trefol.  Mae’r rhain wedi’u cynnwys mewn cofnod Priffyrdd arall, yr ydym yn gobeithio ei ddarparu fel adnodd GIS ar-lein yn y dyfodol.
6.  Cafodd y data ei ddigido gan WS Atkins yn 1995 ar raddfa o 1:10560.
Rwy’n cytuno â’r amodau a thelerau – Cliciwch yma i gychwyn PlanAccess ac i edrych ar y mapiau
Nid wyf yn derbyn yr amodau a thelerau hyn – Dychwelyd i’r dudalen gartref.

Adeiladau Rhestredig

Sylwer bod y warchodaeth a roddir i Adeiladau Rhestredig yn cynnwys nid yn unig, yr adeilad ond hefyd unrhyw wrthrych neu strwythur sy'n glwm wrth yr adeilad, a/neu unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn ffiniau'r adeilad (yn ei diroedd, gardd, tir etc.) sydd, er nad yw'n gysylltiedig â'r adeilad, yn rhan o'r tir a bu felly ers 1af Gorffennaf 1948.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0