| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cysgodi
Alt text

Yn aml iawn mae cysgodi’n rhan hanfodol o amddiffyn eich hun ac amddiffyn eich teulu mewn argyfwng. Enghraifft dda o hynny fyddai cemegau’n gollwng, neu ddigwyddiad tebyg – cysgodi rhag perygl o’r awyr yw’r peth gorau i wneud bryd hynny. Y cyngor a roddir yn yr amgylchiadau hynny yw:


 Ewch I'r Ty – Arhoswch Yno – Gwrandewch Ar Y Radio!

Ewch dan do ac aros yno hyd nes y bo’r heddlu’n eich hysbysu ei bod yn ddiogel ichi fynd allan, neu hyd nes y clywch yr awdurdodau’n dweud hynny dros y cyfryngau. Gwrandewch yn astud ar eich gorsaf radio leol er mwyn clywed pob gair o gyngor a newyddion ynglyn â’r argyfwng. Mae eich gorsafoedd radio lleol wedi’u rhestru ar dudalen 12.

  • Pan fo swyddogion y Gwasanaethau Brys yn gorchymyn hynny, ewch i’r ty a  chau pob ffenestr, cau a chloi’r drysau, diffodd pob awyrydd ac uned awyru, a  chau popeth sy’n tynnu aer o’r tu allan.  
  • Ewch i ystafell sydd cyn belled â phosib o’r perygl, po gorau os ydych yn  entrychion yr adeilad heb fod yno agoriadau, a pho gorau os gyda’r gwynt.  
  • Arhoswch yno, a pheidiwch â mynd allan hyd nes y bo’r awdurdodau’n eich  cynghori mai diogel yw gwneud hynny. Gofalwch bod gennych radio, bwyd a  diod yn yr ystafell yr ydych wedi cilio iddi.  
  • Anifeiliaid anwes: peidiwch â mynd allan i chwilio amdanynt - arhoswch iddynt  ddod at y drws, wedyn (os oeddent allan pan ddigwyddodd yr argyfwng) eu rhoi  mewn ystafell ar wahân bawb a oedd y tu fewn bryd hynny. Gallwch beryglu chi  eich hun ac eraill trwy ganiatáu iddynt ddod i mewn yn yr amgylchiadau hynny.  
  • Gwrandewch ar eich gorsaf radio leol, neu’r teledu, i gael y cyngor diweddaraf o  ran beth i’w wneud.  
  • Peidiwch â bwyta bwyd a fu’n agored i’r awyr, rhag ofn ei fod wedi’i halogi yn  ystod yr argyfwng – nid yw hynny’n berthnasol yn achos bwyd wedi’i bacio. Bydd  yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhoi cyngor ynglyn â chynnyrch amaethyddol a  llaeth. Gwrandewch yn astud ar eich gorsaf radio leol.  
  • Peidiwch â defnyddio ffôn, yn enwedig eich ffôn poced, ac eithrio pan fo  hynny’n hanfodol. Efallai bod y Gwasanaethau Brys yn ceisio cysylltu â chi, neu  y mae arnynt angen defnyddio’r nifer cyfyngedig o linellau ffôn sydd ar gael. 
  • Bydd yr Heddlu a’r awdurdodau addysg yn gofalu bod disgyblion yr ysgolion  perthnasol yn cael y gofal mwyaf.
  • Os digwydd ichi fod allan yn cerdded pan fydd yr awdurdodau’n cynghori pawb i  gysgodi, ewch i siop neu adeilad cyhoeddus arall ac aros hyd nes y cewch   gyfarwyddyd ychwanegol.  
  • Ufuddhewch gyfarwyddyd y Gwasanaethau Brys. Byddwch yn llawer mwy diogel  wrth gysgodi na cheisio symud o’r ty eich hun. Bydd y Gwasanaethau Brys yn  rhoi gwybod ichi os yw’n angenrheidiol ichi symud o’ch ty. Os mater o fywyd neu farwolaeth ydyw, ffoniwch y Gwasanaethau Brys: 999. Peidiwch â ffonio 999 er  mwyn cael gwybodaeth a dim arall - rhowch gyfle i’r rhai sydd mewn gwir angen  gysylltu â hwy.  
  • Peidiwch â cheisio nôl y plant: byddant yn ddiogel yn yr ysgol, y feithrinfa neu  gyda’r gofalwr plant, a dim ond peryglu chi eich hun a wnewch trwy fynd allan  eich hun. Bydd y rhai sy’n gofalu am y plant yn sicrhau eu bod yn ddiogel hyd   nes y bydd y ‘gorchymyn cysgodi’ wedi dod i ben. Pe bai’n angenrheidiol symud  eich plant, cânt eu cludo i ganolfan seibiant ddiogel. Cewch eu nôl oddi yno, neu  bydd pobl yn eu gwarchod yno hyd nes y medrwch adael y lle yr ydych yn  cysgodi ynddo.  
  • Os oeddech y tu allan yn ystod yr argyfwng, ceisiwch newid eich dillad a chael  cawod pan fo’n ymarferol gwneud hynny. Rhowch yr hen ddillad mewn bag bin, clymwch y bag, wedyn ei roi mewn bag arall. Cadwch y bag hyd nes y bydd  cyfle i rywun roi sylw i’r dillad. Pan fyddwch yn y gawod, peidiwch â llyncu’r dŵr,   a gofalwch eich bod yn golchi’ch llygaid ac unrhyw glwyf neu grafiadau a  ddioddefoch. 
  • Os ydych yn pryderu ynghylch unrhyw beth, ffoniwch y rhif ‘cyngor iechyd’ a  gyhoeddir ar y radio a’r teledu. PEIDIWCH â symud o’r lle yr ydych yn cysgodi.  
  • Os ydych yn ddibynnol ar Gynorthwyydd Gofal Cartref, ac yn cysgodi, ni fydd  modd i’r Cynorthwyydd ddod atoch. Bydd swyddogion yr Awdurdod Lleol yn  hysbysu’r Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, er mwyn i’r staff yno  eich ffonio. Efallai y bydd angen eich symud o’r lle yr ydych yn cysgodi, ond os  ydych mewn perygl difrifol ffoniwch y Gwasanaethau Brys: 999
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0