Ni fydd pobl a phlant yn cael eu symud o’u tai oni bo gwir angen hynny; serch hynny, mae penderfyniad o’r fath yn fwy cyffredin nag y tybiwch. Os yw nwy yn gollwng o bibell bydd y Gwasanaethau Brys yn mynnu fod pawb yn y stryd yn symud o’u tai. Gall llifogydd eich gorfodi i adael eich cartref neu’ch gweithle. Nid yw hynny’n parhau’n hir pob tro: yn aml iawn bydd y trigolion yn dychwelyd i’w tai cyn pen rhai oriau gan fod yr argyfwng wedi darfod. Nid felly yn achos digwyddiad cemegol; efallai na fydd modd ichi fyw yn eich ty hyd nes ei fod wedi ei ddiheintio. Doeth felly yw paratoi ar gyfer adeg pan fydd rhaid ichi symud o’ch ty.
- Holwch am y Cynllun Argyfwng Sylweddol gan swyddogion priodol eich Awdurdod Lleol
- Trafodwch y peth ymhlith aelodau’ch teulu. Trefnwch le y byddwch yn mynd petai rhaid ichi symud o’ch ty neu hyd yn oed eich tref/pentref. Trefnwch sut i gyrraedd yno, gan gofio nad chi yn unig fydd yn gwneud hynny ac y bydd y ffyrdd yn brysur iawn
- Os yw swyddogion y Gwasanaethau Brys yn eich cynghori i gysgodi, peidiwch ag ymadael â’ch ty o’ch gwirfodd.
- Mae’n well o lawer eich bod yn cysgodi yn yr amgylchiadau hynny (gweler yr adran ‘Cysgodi’). Ufuddhewch y neges ‘Ewch i’r ty, Arhoswch yno, a Gwrandewch ar y Radio’, ac aros am gyngor y Gwasanaethau Brys neu’r arbenigwyr a benodir ganddynt. Pan fo’r Gwasanaethau Brys yn pennu bod rhaid ichi symud o’ch ty byddant yn dweud wrthych sut i wneud hynny, a lle i fynd.
- Ufuddhewch y cyngor a roddir gan y Gwasanaethau Brys pob tro. Os dywedant fod rhaid ichi symud o’ch ty, gwnewch hynny. Peidiwch â cheisio mynd i ardaloedd y gwaherddir pobl rhag mynd iddynt, gan gynnwys ffyrdd sydd wedi cau.
- Trefnwch le y gall holl aelodau’ch teulu fynd iddo petai digwydd iddynt wahanu yn ystod argyfwng neu drychineb.
- Gofynnwch i ffrind y tu allan i’ch tref/pentref gytuno y gall aelodau’ch teulu ei ffonio i ddweud eu bod yn ddiogel.
- Holwch lle y bydd y plant yn cael eu hanfon petai raid symud disgyblion o’r ysgolion. Cofiwch y gallai’r trefniadau hynny newid ar fyr rybudd os tybir bod y man cyfarfod yn rhy beryglus
- Trefnwch fod Pecyn Argyfwng wedi ei baratoi a’i osod mewn ‘Canolfan Seibiant’, yn cynnwys meddyginiaeth a ragnodwyd, eitemau ar gyfer babanod, deunydd ac eitemau ystafell ymolchi, a rhestrau ffôn.
- Gofalwch eich bod yn gwybod sut i atal y cyflenwad trydan, nwy a dŵr rhag cyrraedd eich ty, ac yn trefnu bod celfi priodol i wneud hynny wedi eu cadw mewn lle penodol
Os yw’n debygol y bydd y tywydd yn drybeilig o oer pan fyddwch i ffwrdd o’ch cartref, gofalwch eich bod yn gwarchod pibelli dwr y ty rhag rhewi, megis:
- Atal y cyflenwad dwr rhag cyrraedd y ty o’r brif bibell ddwr
- Agor y tapiau er mwyn gwagio’r pibelli yn y ty
- Troi’r falfiau mewnol i ffwrdd ar gyfer tapiau allanol, ac agor y tapiau allanol er mwyn cael gwared ar y dŵr
- Gadewch ddrws eich croglofft ar agor er mwyn i aer cynnes fedru cyrraedd y tanc dwr a’r pibelli
- Gofalwch fod eich ffenestri wedi’u cau a’u cloi
- Gofalwch eich bod yn cloi’r ty cyn ymadael

Rhoi adborth ar y tudalen hon