| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Anifeiliaid Anwes
Alt text

O bydd rhaid ichi symud o’r tŷ, gadewch eich anifeiliaid anwes yno. Gofalwch bod ganddynt gyflenwad o ddŵr, er mwyn iddynt fyw yno’n gyffyrddus am hyd at ddeuddydd.  

  • Efallai na chaniateir ichi fynd ag anifeiliaid anwes i Ganolfan Seibiant. Efallai y bydd rhaid ichi eu gadael gyda’r RSCPA hyd nes y bydd modd ichi ddychwelyd i’ch cartref.  
  • Gofalwch eich bod wedi gosod tag adnabod ar goler pob anifail (os yn briodol). Gorau oll os medrwch osod llun yr anifail ar y tag, neu ficrosglodyn ar eich anifail. 
  • Os yw’n rhaid ichi fynd â’ch anifail anwes gyda chi gofalwch bod gennych gynhwysydd addas ar ei gyfer, a bod cŵn ar dennyn priodol. 
  • Ystyriwch anghenion eich anifeiliad anwes pan fyddwch yn paratoi’ch Pecyn Argyfwng. Ystyriwch yr hyn na fydd modd ei gael ar eu cyfer yn y Ganolfan Seibiant, megis bwyd, dwr, meddyginiaeth, cofnodion milfeddygol, blwch gwasarn, dysglau bwyd, offer cymorth cyntaf, teganau ac ati.

Anifeiliaid Mawr 

  • Efallai na fydd modd symud anifeiliaid mawr, megis gwartheg a cheffylau. Serch hynny, gallwch ymorol ar gyfer anifeiliaid sydd ar eu pen eu hunain, neu’n ddiarffordd:
  • Gorchwyl y perchennog yw pennu a oes rhaid cysgodi’r anifeiliaid, neu a yw’n ddiogel eu gadael yn yr awyr agored. Bydd hynny’n ddibynnol ar y math o argyfwng sy’n digwydd, safon a lleoliad y cysgod, ac i ba raddau y mae eu gadael y tu allan yn peri risg. Os yw’r awdurdodau’n cynghori pawb i gysgodi, dylid cysgodi’r anifeiliaid hefyd. Yn yr amgylchiadau hynny gofalwch fod digon o fwyd a dŵr wedi eu gadael ar eu cyfer.
  • Gofalwch bod modd adnabod pob anifail. 

Bywyd Gwyllt

  • Ni ellir rhagweld sut y bydd anifeiliaid gwyllt yn ymateb mewn unrhyw amgylchiadau, yn enwedig pan ddigwydd trychineb neu sefyllfa sy’n peryglu eu bywydau.  
  • Byddwch yn ofalus wrth ddynesu at anifail gwyllt neu anifail anwes strae yn ystod argyfwng. Tybiant eich bod yn peri bygythiad iddynt, ac efallai y byddant yn niweidio eu hunain neu’ch niweidio chi yn yr amgylchiadau hynny. 
  • Os dewch o hyd i anifail strae neu anifail wedi’i niweidio, peidiwch â cheisio’i drin – ffoniwch y Cyngor Sir neu sefydliad sy’n gofalu am anifeiliaid. 
  • Mae cyrff anifeiliaid wedi marw’n peri risg difrifol i iechyd pobl a phlant. Peidiwch â chyffwrdd anifeiliaid marw: ceisiwch gyngor swyddogion eich Awdurdod Lleol. 
  • Os yw anifail yn eich brathu, ceisiwch sylw meddygol ar unwaith. 
  • Gall llygod mawr beri problem wedi argyfwng, yn enwedig yn sgil llifogydd. Gofalwch nad oes modd iddynt gyrraedd eich bwydydd, a chysylltwch â swyddogion yr Awdurdod Lleol os gwelwch lygod mawr. 
  • Yn ystod llifogydd bydd rhai anifeiliaid bychain, megis llygod mawr neu wiwerod, yn llochesu yn eich tŷ. Peidiwch â mynd yn agos atynt: agorwch ffenestr i roi cyfle iddynt ddianc. Os ydynt yn aros, ceisiwch gymorth eich Awdurdod Lleol
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0