Mae’r cyfnod ailgodi’n dechrau ar unwaith pan fo’r bygythiad gwaethaf wedi cilio. Byddwch yn awyddus i ailgydio mewn bywyd fel ag yr oedd, er mewn gwirionedd ni fydd bywyd yr un fath yn dilyn trychineb sylweddol. Un o nodweddion eich bywyd arferol wedyn yw’r effaith a gaiff trychineb o’r fath arnoch chi, eich teulu a’ch cymuned. Bydd swyddogion yr Awdurdod Lleol yn gwneud eu gorau glas i adfer y bywyd yr oeddech yn ei ddilyn o’r blaen cyn gynted â phosib. Serch hynny, mae gennych chi gyfrifoldebau o ran rhai agweddau ar eich bywyd, yn enwedig eich iechyd a’ch eiddo.
Yn dilyn trychineb, iechyd a diogelwch eich teulu yw eich blaenoriaeth:
- Gofalwch rhag peryglon newydd yn sgil y trychineb, megis ffyrdd wedi difrodi, adeiladau wedi eu halogi, dwr wedi’i halogi, nwy’n gollwng, gwydr yn deilchion, gwifrau trydan wedi hollti, lloriau llithrig ac ati.
- Peidiwch â blino gormod, ac na cheisiwch wneud gormod ar unwaith. Pennwch eich blaenoriaethau a’u cyflawni o fewn amser call.
- Yfwch digon o ddŵr glân. Bwytwch yn gall, a gofalu bod eich corff yn cael digon o orffwys.
- Gwisgwch esgidiau cadarn a menig gwaith trwchus pan fyddwch yn clirio rwbel, a gofalwch olchi’ch dwylo’n aml a thrylwyr gyda dŵr glân a sebon, yn enwedig os ydych yn trin dŵr llifogydd.
- Rhowch wybod i’r Awdurdod Lleol neu’r Gwasanaethau Brys pan ddaw peryglon Iechyd a Diogelwch i’ch sylw, megis cemegau’n gollwng, gwifrau trydan wedi dymchwel, ffyrdd wedi difrodi, deunydd inswleiddio’n mudlosgi, nwy’n gollwng neu anifeiliaid wedi marw.
Dychwelyd i’ch cartref
Gall dychwelyd i’ch cartref pan fo wedi difrodi fod yn brofiad anodd iawn, yn gorfforol a meddyliol. Byddwch yn ofalus
da chi. Gwisgwch esgidiau cadarn a menig gwaith trwchus.
Cerddwch yn ofalus o amgylch y tŷ cyn mynd i mewn iddo, rhag bod gwifrau trydan wedi cwympo, nwy’n gollwng neu
furiau’r tŷ wedi difrodi. Os digwydd ichi arogli nwy peidiwch â mynd i’r tŷ: ewch oddi yno ar unwaith.
Os yw tân wedi difrodi’ch eiddo, peidiwch â mynd i mewn hyd nes y bo’r awdurdodau wedi cadarnhau ei bod yn
ddiogel gwneud hynny.
Gofalwch rhag bod holltau yn y to, y muriau a’r simneiau. Os yw’n debygol y gallai’r eiddo gwympo ewch allan ar unwaith.
Y modd gorau o archwilio’r tŷ os yw wedi difrodi yw gyda fflachlamp. GAIR O GYNGOR: Trowch y fflachlamp ymlaen
y tu allan i’r tŷ, oherwydd os yw nwy’n gollwng yn y tŷ gallai ffrwydro oherwydd gwreichion a allai ddigwydd wrth droi
fflachlamp ymlaen. Peidiwch â thanio tân agored yn y tŷ os tybiwch fod nwy’n gollwng.
Os diffoddwyd eich cyflenwad nwy cyn ichi symud o’r tŷ yn dilyn argyfwng, mae’n rhaid ichi drefnu bod gweithiwr
proffesiynol yn ei droi ymlaen ac yn profi’r systemau nwy cyn ichi eu defnyddio.
Os ydych yn oglau nwy neu’n clywed sŵn hisian, ewch allan o’r tŷ ar unwaith.
Edrychwch ar eich holl offer trydanol. Os ydynt yn wlyb bydd yn rhaid trefnu i drydanwr proffesiynol eu profi cyn eich
bod yn eu defnyddio.
Agorwch ffenestri a drysau’r tŷ er mwyn i’r aer symud trwyddo. Os ydych wedi defnyddio’r tŷ i gysgodi mae angen
aer ffres i gael gwared ar y nwyon sydd wedi cronni yno o bosib.
Gofalwch eich bod yn cael gwared ar fwydydd ffres, meddyginiaethau a deunydd cosmetig a halogwyd gan lifogydd.
Gofalwch eich bod yn diheintio teganau a halogwyd gan lifogydd cyn caniatáu i’ch plant eu defnyddio.
Peidiwch â defnyddio dŵr o’r tap hyd nes y bo’r Awdurdod Lleol neu’r Cwmni Dwr wedi cadarnhau ei bod yn ddiogel
ichi wneud hynny: efallai ei fod wedi’i halogi.
Cysylltwch â’ch cwmni yswiriant cyn gynted ag y bo modd. Tynnwch lun y difrod, a chofnodi pris y gwaith trwsio a’r
gwaith glanhau. Gofalwch rhag gweithwyr ffug sy’n ymddangos yn dilyn pob trychineb. Gofynnwch i’r cwmni adeiladu
etc. am ddyfynbris: bydd y cwmni yswiriant yn mynnu copi cyn ystyried eich cais. Gofalwch bod y dyfynbris wedi’i
ysgrifennu ar bapur swyddogol sy’n cynnwys rhif ffôn (nid ffôn symudol!) a chyfeiriad sy’n hysbys ichi. Peidiwch â
thalu rhag llaw, a gofalwch fod y gwaith wedi’i orffen yn foddhaol cyn talu. Cofiwch gael derbynneb gan y gweithiwr
pan fyddwch yn talu. Os ydych yn bryderus, ceisiwch gyngor gan staff adran Safonau Masnach eich Awdurdod
Lleol.Ymdopi â thrychinebau
Mae trychineb yn siŵr o effeithio arnoch o ran straen cyffredinol a straen meddyliol. Peidiwch â dioddef yn dawel, heb ofyn am gymorth. Gofalwch yn arbennig am eich plant: nid ydynt wastad yn arddangos cymaint y maent yn dioddef, a daw’r effaith i’r golwg maes o law yn aml iawn.
Dyma’r arwyddion a ddaw i’r amlwg pan fydd rhywun mewn trafferth, gan gynnwys chi eich hun:
- Trafferth cyfleu eich syniadau
- Trafferth cysgu
- Trafferth cadw’ch cydbwysedd
- Teimlo’n rhwystredig yn hawdd
- Gwylltio’n hawdd
- Yfed mwy o alcohol, defnyddio mwy o gyffuriau
- Tethu â chanolbwyntio
- Safon ei g/waith yn dioddef
- Cur pen / problemau stumog
- Gwelediad twnnel / clyw diffygiol
- Annwyd neu symptomau ffliw
- Dryslyd
- Trafferth canolbwyntio
- Yn anfodlon gadael y tŷ
- Iselder a thristwch
- Anobaith llwyr
- Oriog, ac yn wylo’n ddidrafferth
- Yn teimlo’n euog aruthrol, gan amau ei hun
- Yn ofni torfeydd a dieithriaid, ac ofn bod ar ei b/phen ei hun
- Mae trychinebau’n achosi i bobl a phlant, yn enwedig plant, deimlo’n ofnus, dryslyd ac ansicr. Mae’n bwysig eich bod yn paratoi rhieni ac athrawon ar gyfer ymdrin â’r symptomau uchod os dônt i’r amlwg. Mae rhaglenni teledu byw sy’n dangos trychineb neu sefyllfa argyfyngus yn digwydd hefyd yn debygol o effeithio ar blant.
- Mae rhai plant yn arddangos symptomau straen yn fuan iawn yn dilyn y digwyddiad, ac eraill yn ymddangos yn holliach am wythnosau lawer cyn i’r symptomau ymddangos.
- Pan fo plant yn dioddef trawma, rhaid yw eu cysuro yn fwy na dim. Mae angen eu cofleidio’n aml, a thawelu eu meddyliau ar lafar.
- Atebwch eu cwestiynau’n onest, ond gofalwch rhag manylu’n ddiangen, a gofalwch rhag i’r mater fod y prif lwnc llosg ym mywyd y teulu byth a beunydd.
- Ceisiwch gymell y plant i fynegi eu teimladau trwy sgwrsio, tynnu llun neu helpu eraill a ddioddefodd yn sgil yr un trychineb.
- Os hoffech gyngor, cysylltwch ag adran Gwasanaethau Plant eich Awdurdod Lleol, neu athro/athrawes eich lentyn/plant.
- Gofalwch fod trefn eich bywyd cartref yr un fath ag arfer.
- Anogwch eich plant i fod â rhan mewn digwyddiadau’r byd hamdden chwaraeon.
- Dros dro, peidiwch â phwyso’ch plentyn o ran llwyddiant yn yr ysgol a’i h/ymddygiad gartref

Rhoi adborth ar y tudalen hon