Tywydd Crasboeth
Gall oerfel eithriadol fod yn farwol. Mae gwres eithriadol yr un fath, yn trethu’r corff y tu hwnt i’r hyn y gall ei ddioddef. Y rhesymau pennaf paham fod pobl a phlant yn dioddef oherwydd gwres yw eu bod wedi ei ddioddef yn ormodol, neu wedi ymarfer y corff yn rhy egnïol o ystyried eu hoed a chyflwr eu corff. Y rhai sydd fwyaf tebygol o ddioddef effeithiau tywydd crasboeth yw’r henoed, plant ifanc, y rhai sy’n sâl, a’r rhai sy’n gorbwyso. Dyma’r hyn y dylech ei wneud i wrthsefyll tywydd crasboeth:
- Arhoswch dan do cymaint â phosib
- Os nad ydych wedi gosod system dymheru yn eich cartref, arhoswch ar y llawr isaf, allan o olwg yr haul.
- Cofiwch nad yw ffan drydan yn oeri’r ystafell: ei gwaith yw chwythu aer poeth o amgylch yr ystafell.
- Bwytwch brydau bwyd cytbwys ac ysgafn yn rheolaidd. Peidiwch â llyncu tabledi halen oni bo’ch meddyg wedi eich cynghori i wneud hynny.
- Yfwch digon o ddŵr yn rheolaidd, hyd yn oed pan na fyddwch yn sychedig. (Dylai’r rhai sy’n dioddef epilepsi neu anhwylder yn ymwneud â’r galon, yr arennau neu’r iau, y rhai â diet sy’n cynnwys diodydd penodol, neu’r rhai sy’n cael trafferth cadw hylif yn y corff ymgynghori â meddyg cyn yfed mwy na’r arfer o ddŵr).
- Peidiwch ag yfed gormod o alcohol, gan fod alcohol yn sychu’r corff.
- Peidiwch â gadael plant ac anifeiliaid anwes ar eu pen eu hunain mewn cerbyd caeedig.
- Gwisgwch ddillad llac, a gorchuddio cymaint o’r corff â phosib. Gwisgwch het lydan sy’n amddiffyn eich wyneb a’ch pen.
- Peidiwch ag aros yn llygaid yr haul am gyfnodau hir. Defnyddiwch eli haul SPF15 neu gryfach.
- Ceisiwch osgoi gwaith egnïol yn ystod cyfnod poethaf y dydd, a pheidiwch â gweithio ar eich pen eich hun mewn gwres eithriadol os yn bosibl. Manteisiwch ar seibiant rheolaidd pan fyddwch yn gweithio mewn gwres.
- Cadwch lygaid barcud ar eich perthnasau a’ch ffrindiau sy’n fregus, megis pobl oedrannus.
- Porwch trwy lyfrau Cymorth Cyntaf i gael gwybodaeth ynglyn â llosg haul, cramp gwres, lludded gwres neu drawiad gwres, a pharatowch ar gyfer cynorthwyo’r dioddefwyr.

Rhoi adborth ar y tudalen hon