| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Deunydd Peryglus
Alt text

Mae cemegau peryglus yn rhan o’n bywyd beunyddiol, boed cemegau diwydiannol, glanhawyr domestig, neu beraroglydd. Deunydd peryglus o’r fath yw defnyddiau â naws cemegol sy’n peri risg i fywyd, iechyd neu eiddo os cânt eu gollwng. Mae peryglon yn bod pan fo’r deunyddiau’n cael eu cynhyrchu, eu storio, eu cludo, a’u defnyddio, yn ogystal â phan y byddwn yn cael gwared â hwy. Mae rheoliadau Iechyd a Diogelwch ar gyfer y sefyllfaoedd hyn. Fel arfer, nid oes achos ichi bryderu ynglŷn â hyn, ond doeth yw gwybod yr hyn y dylid ei wneud petai achos yn codi:

  • Os byddwch yn gweld damwain yn ymwneud â defnyddiau peryglus (neu’n arogli damwain o’r fath), ffoniwch 999 ar  unwaith pan fo’n ddiogel gwneud hynny. Peidiwch â throi’ch ffôn poced ymlaen os tybiwch eich bod yn sefyll ger nwy llosgadwy. 
  • Cadwch yn glir o safle’r digwyddiad rhag i unrhyw beth gael ei halogi.  
  • Os ydych mewn car, arhoswch a cheisio lloches mewn adeilad sefydlog os yn bosibl. Os yw’n rhaid ichi aros yn y car gofalwch fod y ffenestri a phob twll awyr ar gau, a pheidiwch â defnyddio’r system dymheru na’r gwresogydd.
  • Os gofynnir ichi symud o’ch cartref, gwnewch hynny ar unwaith. Darllenwch yr adran ‘Symud o’ch Cartref’, ac ufuddhewch bob cyngor a roddir gan y Gwasanaethau Brys. Os yw’n angenrheidiol i bobl a phlant ymadael â’u tai ar  ôl iddynt fod yn cysgodi bydd yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaethau Brys yn trefnu hynny ar eich rhan.
  • Os gofynnir ichi gysgodi, gwnewch hynny. Darllenwch yr adran ‘Cysgodi’.
  • Os ydych yn byw mewn parth gwybodaeth gyhoeddus o amgylch safle a reolir, darllenwch y wybodaeth a roddir ichi.

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth Negeseuon Awtomatig y safle, os yn briodol: bydd y gwasanaeth hwnnw’n rhoi gwybod ichi pan fydd argyfwng yn digwydd, 24 awr y dydd.


Gollyngiad cemegau gwenwynig a phelydriadau


Os gollyngwyd cemegau gwenwynig neu belydriadau yn agos atoch, a thybiwch eich bod wedi’ch halogi, ARHOSWCH am y Gwasanaethau Brys. Bydd swyddogion y gwasanaethau’n darparu offer ar gyfer eich dadlygru, gan ofyn ichi ddiosg y dillad a halogwyd a sefyll mewn cawod a ddarperir mewn uned symudol. Cewch ddillad glân a sych yn eu lle.


Peidiwch â mynd i’r ysbyty o’ch gwirfodd eich hun os tybiwch eich bod wedi’ch halogi: ARHOSWCH i gael cyngor arbenigol.

Argyfwng Cemegol yn y Cartref


Mae bron pawb yn cadw defnyddiau peryglus yn y tŷ. Prin iawn yw’r risg y bydd damwain gemegol yn digwydd, ond bydd anafiadau’n llai tebyg o ddigwydd o wybod sut i ymdrin â’r defnyddiau hyn ac o wybod sut i ymateb mewn argyfwng. 


 

  • Pan fyddwch yn cael gwared ar y cemegau, darllenwch y cyfarwyddiadau ar y blwch/potel.
  • Gofalwch eich bod yn cludo hen feddyginiaethau, neu rhai na ddefnyddioch, yn ôl i’r feddygfa er mwyn i’r staff gael gwared arnynt. 
  • Darllenwch y cyfarwyddiadau cyn defnyddio cemegau am y tro cyntaf, a gofalwch eich bod yn eu cadw’n unol ag argymhellion y gwneuthurwr. 
  • Cadwch ddefnyddiau cemegol mewn lle diogel, gorau oll ar silff neu mewn cwpwrdd uchel o gyrraedd plant. 
  • Gofalwch beidio cymysgu defnyddiau cemegol a ddefnyddir yn y tŷ. 
  • Peidiwch ag ysmygu wrth ddefnyddio cemegau.  
  • Os byddwch yn gollwng cemegau, defnyddiwch hen garpiau i’w glanhau ar unwaith. Gwisgwch fenig a rhywbeth i amddiffyn eich llygaid. Rhowch y carpiau y tu allan am gyfnod er mwyn i fygdarthau anweddu, wedyn cael gwared arnynt yr un fath ag y byddwch yn cael gwared ar y cemegau. 
  • Gosodwch rif Galw Iechyd Cymru: 0845 46 47 wrth bob ffôn 
  • Byddwch yn gyfarwydd ag effeithiau gwenwyno ar y sawl sy’n dioddef: 
  • Trafferth anadlu  
  • Y llygaid, croes, gwddf neu’ch pibell anadlu’n cosi’n boenus  
  • Lliw eich croen yn newid  
  • Eich golwg yn aneglur, neu’n dioddef cur pen  
  • Teimlo’n benysgafn  
  • Yn drwsgl, ac yn methu cyd-drefnu pethau  
  • Cyffio neu’n dioddef diarrhoea 


  Os yw eich plentyn yn yfed neu’n bwyta defnyddiau cemegol, edrychwch am y cynhwysydd ar unwaith a’i gludo at y ffôn i alw am gymorth. Mae’n debyg y bydd y sawl yr ydych yn siarad ag o/â hi yn holi pa wybodaeth sydd ar y cynhwysydd er mwyn rhoi cyngor brys addas ichi.  

  • Ffoniwch 999.  
  • Ufuddhewch bob cyngor proffesiynol yn ofalus, a pheidiwch â gofyn i’r claf lyncu unrhyw beth oni bo gweithiwr meddygol proffesiynol wedi eich cyfarwyddo i wneud hynny. 
  • Yn y lle cyntaf, darllenwch eich llyfr Cymorth Cyntaf ynglŷn â’r hyn i’w wneud pan fo rhywun wedi’i wenwyno. 
  • Os yw cemegau’n effeithio ar lygaid y claf, ymatebwch ar unwaith. Golchwch y llygaid gyda dŵr glân am o leiaf 15 munud, oni bo’r awdurdodau wedi dweud wrthych am beidio defnyddio dŵr ar gyfer y cemegyn hwnnw. Hewch i lanhau’r llygaid, hyd yn oed os yw’r claf yn dweud nad yw’n dioddef poen, ac wedyn trefnwch i arbenigwr meddygol roi sylw i’r mater.
     
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0