| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Manylion Cysylltu'r Gwasanaeth
Cyfeiriad:
Ardrethi Busness
Cyngor Sir Ddinbich
Russell House,
Churton Road,
Rhyl, LL18 3DP
Teleffon:
01824 706326
Ebost
Ardrethi Busnes
logo

Ardrethi Busnes yw cyfraniad a wneir gan fusnesau tuag at gost y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.  Hyd at 31/3/90, roedd preswylwyr a busnesau yn gwneud cyfraniad drwy dalu trethi, a oedd yn cael eu pennu yn lleol. 

Newidiodd hyn o 1/4/90: roedd unigolion yn talu Tâl Cymunedol neu Dreth y Pen (wedi ei ddisodli’n ddiweddarach gan Dreth y Cyngor), a chyflwynwyd Ardrethi Annomestig Gwladol neu Ardrethi Busnes.
 
Mae Ardrethi Busnes yn cael eu gosod ar yr un gyfradd y bunt (puntdal) ar draws Cymru, felly ni all cynghorau lleol bennu cyfraddau puntdal gwahanol. 

Cyn dechrau gweithredu’r cynllun Ardrethi Annomestig, cafodd yr holl eiddo busnes eu hailbrisio gan y Swyddfa Brisio (asiantaeth Cyllid y Wlad) a chrewyd Rhestr Drethu 1990, sy’n dangos yr holl ‘werthoedd ardrethol’ y penderfynwyd arnynt yn ystod yr ailbrisiad hwnnw. 

Mae ailbrisio yn cael ei gyflawni bob 5 mlynedd - cafwyd yr un diwethaf yn 2005, a lluniwyd Rhestr Drethu 2005. 

Mae’r gwerth ardrethol wedi ei seilio ar y rhent blynyddol y gellid bod wedi ei gael am eiddo ar ddyddiad penodol.  Mae’r gwerthoedd yn Rhestr Drethu 2005 wedi eu seilio ar y rhent y gellid ei godi ar 1/4/2003.

Mae rhai mathau o eiddo annomestig yn cael eu heithrio felly nid yw’n ofynnol talu ardrethi arnynt e.e. adeiladau fferm, eglwysi a pharciau cyhoeddus. 

Mae rhai adeiladau yn rhai ‘cyfansawdd’ h.y. rhannol ddomestig a rhannol annomestig e.e. siop gyda lle byw uwchben.  Yn yr achosion hyn, mae ardrethi busnes yn daladwy ar y rhan annomestig a Threth y Cyngor yn daladwy am y llety preswyl. 

Cesglir ardrethi busnes gan gynghorau lleol ond maent yn cael eu talu i gronfa genedlaethol.  Yna mae’r llywodraeth ganolog yn rhoi cyfran i bob ardal wedi ei seilio ar nifer yr oedolion yn y boblogaeth leol.  Golyga hyn nad yw ardal â chymharol ychydig o fusnesau, neu lle mae gwerthoedd eiddo yn isel, dan anfantais oherwydd ei incwm isel o Ardrethi Busnes. 

Cyswllt
  
Gellwch gysylltu â Chyngor Sir Ddinbych ar unrhyw ddiwrnod gwaith o 9.00 am tan 5.00 pm.
  
Ymholiadau ayb. ynghylch bil, nodyn atgoffa neu wþs -
  
Ffoniwch 01824 706326 - 2 linell
Ffacsiwch 01824 706306

Ysgrifennwch at:-  Refeniw, Ty Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl, LL18 3DP

Gorfodi - Ymholiadau ynghylch trefniant llys, beili, ar ôl llys neu ar gyfer treth y cyngor yn unig - atodiad i enillion neu fudd-dâl
  
Ffoniwch 01824 706321 - 3 llinell

Taliadau teleffon 24awr

Gallwch dalu Dirwy Parcio, y Dreth Gyngor, NNDR a rhenti cyngor trwy ffonio 01824 706145

Byddwch angen eich cerdyn credyd neu ddebyd a rhif eich cyfrif.

Gellir talu dros y we hefo cerdyn debyd.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0