Rhyddhad Elusennol a Rhyddhad Disgresiynol
Rhyddhad Elusennol a Rhyddhad Disgresiynol
Mae gan elusennau yr hawl i ryddhad rhag ardrethi ar unrhyw eiddo annomestig a ddefnyddir yn gyfangwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol. Rhoir rhyddhad ar 80% o’r bil llawn neu’r bil trosiannol lle mae trefniadau trosiannol yn berthnasol. Hefyd mae gan yr awdurdodau bilio y disgresiwn i hepgor y cyfan neu ran o’r 20% sy’n weddill o fil elusen ar gyfer eiddo o’r fath.
Mae gan awdurdod y disgresiwn i hepgor y cyfan neu ran o unrhyw fil ardrethi o ran eiddo a ddefnyddir gan gyrff penodol a sefydlwyd nid er elw, ond nad ydynt yn elusennau, ond bod eu prif amcanion yn:
- elusennol neu ddyngarol neu grefyddol
- ymwneud ag addysg, lles cymdeithasol, gwyddoniaeth, llenyddiaeth neu’r celfyddydau cain
- neu os defnyddir yr eiddo at ddibenion hamdden

Rhoi adborth ar y tudalen hon