| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Treth y Cyngor - Anheddau Eithriedig

Treth y Cyngor - Anheddau Eithriedig

Anheddau Eithriedig

Mae treth y cyngor yn ddyledus ar bob annedd nad yw'n eithriedig.  Mae sawl dosbarth o annedd  wedi'u heithrio rhag treth y cyngor.  Gall annedd newid o fod yn annedd drethadwy yn annedd eithriedig (neu i'r gwrthwyneb) yn ystod y flwyddyn.  Mewn achos o'r fath nid yw treth y cyngor ond yn ddyledus yn ystod y cyfnod neu'r cyfnodau pan yw'n drethadwy, a chaiff y swm ei weithio fesul diwrnod.  Nid oes gan awdurdodau bilio ddim disgresiwn i amrywio'r dosbarthiadau eithriedig hyn, ac ni chânt estyn y terfynau amser sy'n berthnasol o ran rhai o'r dosbarthiadau ychwaith.  Mae nifer o'r dosbarthiadau'n ymwneud ag anheddau "gwag" ac, yn rhai o'r achosion, rhaid i'r annedd hefyd fod yn "ddiddodrefn i raddau helaeth".

Rhestrir y dosbarthiadau o anheddau eithriedig isod:-

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0