| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Ardrethi Busnes - Atebolrwydd

Eiddo mewn meddiant 


Yn achos eiddo mewn meddiant, yr unigolyn neu’r cwmni sydd ym meddiant yr eiddo sy’n atebol am dalu’r ardrethi. 


Weithiau mae landlord yn codi rhent ar feddiannwr sy’n cynnwys ardrethi.  Hyd yn oed yn yr achosion hyn, y preswylydd yw’r un sy’n atebol i dalu ac anfonir y bil yn ei enw ef/hi.  Yn arferol bydd y preswylydd yn trosglwyddo’r bil i’r landlord sy’n gwneud taliadau ar ran y meddiannwr. 


Eiddo difeddiant 


Oni bai bod eithriad yn berthnasol, codir tâl o 50% o’r ardrethi llawn am eiddo gwag.  Mae’r ‘ardrethi eiddo gwag’ hyn yn daladwy gan berchennog neu brydlesydd yr eiddo, hynny yw, y sawl â’r hawl i feddiannu’r eiddo. 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0