| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Trefniadau Trosiannol

Rhestr 2000

Gwnaeth y trefniadau trosiannol ddarfod gweithredu ar 1 Ebrill 2003. 


Cynllun gan y Llywodraeth oedd rhyddhad trosiannol a oedd yn sicrhau nad oedd cynnydd sylweddol neu ostyngiad sylweddol mewn biliau ardrethi yn sgîl yr ailbrisio, er mwyn eu cyflwyno’n raddol dros nifer o flynyddoedd.


Yng Nghymru roedd rhyddhad trosiannol yng nghyswllt y cynnydd mewn biliau ardrethi yn berthnasol i’r holl fusnesau a oedd yn wynebu cynnydd o 10% neu fwy ac yr oedd eu gwerth ardrethol yn £25,000 neu lai. 


Yn y flwyddyn gyntaf rhoddwyd rhyddhad yn cyfyngu ar gynnydd i 10%, cafodd y rhyddhad a roddwyd yn 2000-01 ei gwtogi fesul traean ymhob un o’r ddwy flynedd ddilynol, gyda’r holl fusnesau’n talu’r bil ardrethi llawn yn 2003-04.


Roedd y cynllun newydd hefyd yn cyfyngu ar y swm y gallai biliau ardrethi gwtogi.  Byddai’r holl fusnesau yn gweld lleihad mewn biliau ardrethi yn elwa.  Cafodd biliau eu lleihau fesul uchafswm o 15% ar gyfer 2000-01 gan godi i 30% a 45% yn y ddwy flynedd ddilynol, a byddai pob busnes wnaeth elwa o’r ailbrisio yn elwa yn llawn erbyn 2003-04 fan bellaf.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0