| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Eiddo Eithredig

Eiddo Eithredig

Mae rhai fathau o eiddo yn cael eu heithrio rhag Ardrethi Busnes.  Mae hyn yn golygu na chodir ardrethi busnes arnynt ac nad ydynt yn cael eu dangos yn y Rhestr Drethu Lleol.  Ceir esboniad manylion am y Rhestr Drethu Lleol yn y tudalennau Prisio Eiddo. 


Mae eiddo eithredig yn cynnwys: 

  • Tir ac adeiladau amaethyddol 
  • Ffermydd pysgod
  • Hawliau pysgota
  • Mannau addoliad crefydol
  • Ty’r Drindod
  • Carthffosydd ac atodion 
  • Eiddo awdurdodau draenio 
  • Parciau cyhoeddus 
  • Rhai eiddo penodol a ddefnyddir ar gyfer pobl anabl  
  • Gwaith amddiffyn rhag ymosodiad o’r awyr 
  • Lleoedd mwrio crog 
  • Ffyrdd sy’n croesi dros gyrsiau dwr
  • Eiddo mewn parthau menter 
  • Lluoedd ar ymweliad

Os nad oes gan eich eiddo hawl i eithriad mwyach, hysbyswch yr Adran Ardrethi Busnes os gwelwch yn dda, gan nodi o ba ddyddiad y dylai’r eithriad ddod i ben a pham.  

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0