| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Ysgol Tir Morfa
Ysgol Tir Morfa

Cyflwyniad

Mae Ysgol Tir Morfa yn Ysgol Anghenion Addysg Arbennig hefo 150 o ddisgyblion rhwng 3 a 19 hefo anawsterau dysgu diwyd a niferus.  Roedd yr Ysgol yn flaenorol ar ddau safle, cwblhawyd Gwedd 1 - adeilad Cyfnod Allweddol 1 (Babanod) adeg Pasg 2005 a chanolwyd yr Ysgol  ar un safle ar Ffordd Derwen, y Rhyl.  Mae cwblhau gwedd 2 wedi gweld Cyfnod Allweddol 2 (Iau) yn symud o adeilad o'r 1970au i adeilad modern pwrpasol. Defnyddir yr hen adeilad ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4 .

Elfennau allweddol y cynllun

Mae cynllun gwedd 2 yn cynnwys yr elfennau canlynol :

• 5 ystafell ddosbarth
• neuadd aml ddefnydd
• cegin Ysgol
• man chwarae allanol
• system sbrinclo yn adeilad gwedd 2
• system sbrinclo yn adeilad gwedd 1

Mantais y cynllun

Bydd cwblhau gwedd 2 yn:

• Darparu cyfleusterau aml bwrpas i hyrwyddo disgyblion Cyfnod Allweddol 2 fydd o gymorth i addysgu a galluogi gwelliannau addysgiadol.

• Ymestyn cyfleoedd i ddisgyblion, er enghraifft bydd y neuadd newydd a'r mannau chwarae yn galluogi plant wneud mwy o weithgareddau corfforol.

• Gwella cyfleusterau arlwyo trwy ddarparu cegin newydd.

• Gwella effeithlonrwydd egni trwy ddarparu adeilad wedi'i ynysu'n dda hefo system wresogi fodern.

Cyllideb

Cyfanswm cost Gwedd 2 oedd £2.1 miliwn, a darparwyd arian  gan Sir Ddinbych  a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Amserlen

Chwefror 2007 – dechrau ar y safle
Ionawr 2008 – cwblhau adeiladu
Chwefror 2008 – adeilad yn barod

Newyddion diweddaraf

Bu Gwedd 2 yr adeilad yn barod ers Chwefror 2008 ac roedd ymateb y staff yn bositif iawn. Mae'r Cyngor yn ystyried trydedd wedd i gwblhau ail ddatblygu Ysgol Tir Morfa hefo lletyaeth newydd i ddisgyblion uwchradd.  Bydd chwilio am ffynonellau ariannu yn parhau.

Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 03/11/08

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0