Trethdalwr y Cyngor
- rhydd-ddeiliad preswyl, megis perchen-breswylydd;
- lesddeiliad preswyl;
- tenant preswyl statudol neu sicr, megis tenant cyngor neu denant preifat;
- tafarnwr preswyl;
- preswylydd heb unrhyw deitl cyfreithiol;
- perchennog yr eiddo ble nad oes dim preswylwyr.
‘Preswylydd’ yw rhywun 18 oed neu drosodd sy’n byw yn yr eiddo fel eu prif neu unig breswylfa. Y ‘perchennog’ yw’r sawl gyda’r budd rhydd-ddaliadol yn yr eiddo, neu sydd â phrydles o chwe mis neu fwy.
Bydd pobl sy’n gydberchenogion neu’n gyd-denantiaid yn gyfrifol ar y cyd am yr un bil Treth y Cyngor. Bydd gwþr a gwragedd, neu bobl sy’n byw gyda’i gilydd fel y cyfryw, hefyd yn gyfrifol ar y cyd am dalu’r bil. Hyd yn oed er y gall fod cyfrifoldeb ar y cyd am dalu, fe all bil fod wedi’i gyfeirio mewn un enw yn unig.
Os byddwch yn newid eich cyfeiriad a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig os gwelwch yn dda i’n hysbysu o:-
- y dyddiad y bu ichi symud;
- eich cyfeiriad newydd;
- enw(au) y deiliad(deiliaid) newydd os yn hysbys.
A wnewch chi ddyfynnu eich rhif cyfrif Treth Cyngor os gwelwch yn dda.
Fe fydd yna eiddo ble bydd y perchennog, yn hytrach na’r preswylwyr, yn gyfrifol am dalu, sef:-
- Tai amlbreswyliaeth, hynny yw ble nad yw’r preswylwyr yn ffurfio un teulu a ble maent yn talu eu rhent ar wahân am wahanol rannau o’r eiddo.
- Cartrefi gofal preswyl neu gartrefi nyrsio, a rhai mathau o hosteli sy’n darparu gofal.
- Cymunedau Crefyddol.
- Eiddo y mae’r perchennog yn byw ynddo o bryd i’w gilydd ac y mae ei staff domestig yn byw
yno hefyd. - Eiddo y mae gweinidogion yr efengyl yn byw ynddo, fel preswylfa o ble y byddant yn cyflawni
dyletswyddau’r swydd. - Eiddo a ddarperir ar gyfer ceiswyr lloches.
Os ydych yn teimlo nad chi ydi’r person sy’n agored i dalu, neu y dylech dderbyn disgownt neu ryddhad, ysgrifennwch at y Gwasanaethau Refeniw ar unwaith os gwelwch yn dda. Mae yna broses apelio i’r Tribiwnlys Prisiant annibynnol mewn achos o anghytundeb.

Rhoi adborth ar y tudalen hon