| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Treth y Cyngor - Talu i Sir Ddinbych

Sut i Dalu- Dulliau Talu

(gofynnwn ichi fod â’ch cyfeirnod cwsmer neu rif yr anfoneb wrth law pan fyddwch yn talu’r bil)

         
Gellwch dalu arian i’r cyngor am y biliau canlynol trwy gerdyn debyd neu gredyd:

Treth y Cyngor
Trethi Busnes (NNDR)
Rhenti Tai
Anfonebau am arian sy’n ddyledus i’r cyngor (Mân Ddyledwyr)

Ffôn 01824 706304 neu 01824 706308

 
Debyd Uniongyrchol

  • Ÿ A ydych yn gwastraffu amser neu arian ar unrhyw un o’r canlynol?
  • Ÿ Tynnu arian allan o’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
  • Ÿ Ysgrifennu sieciau
  • Ÿ Ymorol am archebion post
  • Ÿ Teithio i swyddfeydd y cyngor a chiwio yno (er ein bod yn ceisio delio â chi cyn gynted ag y  gallwn)
  • Ÿ Talu am amlenni a thâl postio
  • Ÿ Pryderu ynghylch a ydi eich taliad wedi’i dderbyn

Os mai YDWYF ydi’r ateb i unrhyw un o’r rhain, a ydych wedi meddwl am newid i Ddebyd Uniongyrchol?

Ar ôl ei llenwi anfonwch eich ffurflen i:

Ty Russell
Ffordd Churton
Y Rhyl
LL18 3DP
 
Gellwch wneud taliadau i’r Cyngor drwy’r dulliau canlynol hefyd:-

Arian Parod

Gellwch dalu ag arian parod mewn unrhyw un o swyddfeydd arian neu siopau un alwad y cyngor.

Giro Swyddfa Bost

Mewn unrhyw swyddfa bost gan ddefnyddio’r cerdyn talu personol (mae’r rhain i’w cael drwy ffonio 01824 706428 / 706456 / 706468 / 706315).
          
Sieciau

Gellwch dalu â siec yn unrhyw un o swyddfeydd arian, siopau un alwad y cyngor neu’i phostio’n uniongyrchol i’r Swyddfa Arian, Neuadd y Dref, Ffordd Wellington, Y Rhyl, LL18 1AB.  Dylid gwneud pob siec yn daladwy i Gyngor Sir Ddinbych a dylech ysgrifennu eich cyfeirnod ar y cefn.

Archeb Bost

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0