| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Rhenti newydd a’r taliadau eraill sy’n daladwy o Ebrill 2007

Rhenti newydd a’r taliadau eraill sy’n daladwy o 02/04/2007

Rydym wedi anfon llythyrau allan at ein holl denantiaid anheddau a garejis i roi gwybod iddyn nhw am y rhenti newydd a’r taliadau eraill sy’n daladwy o 02/04/2007. Rydym wedi anfon tua 4,000 o lythyrau allan.

Bydd y rhenti am anheddau yn codi o 6% ar gyfartaledd. Rydym yn derbyn bod hyn yn sylweddol uwch na chwyddiant cyffredinol ond nid o reidrwydd yn uwch na chodiadau costau tai. Mae angen y cyllid ychwanegol sy’n cael ei greu gan y codiad yma i dalu tuag at y rhaglen wella, sy’n cynnwys ffenestri a systemau gwres canolog newydd. Bu rhai rhenti yn y gorffennol yn is na’r cyfartaledd ar gyfer eu maint ac fe all codiadau i’r rhain fod hyd yn oed yn uwch na 6% ond maen nhw’n dal i gadw rhyw lefel o amddiffyniad ac ond yn codi fesul tipyn pob blwyddyn tuag at y rhent targed. Er mwyn cydbwyso hyn bu tenantiaid sydd wedi bod yn talu mwy na’r rhenti targed; mae’r rhain wedi’u rhewi ers sawl blwyddyn ac eleni bydd hi’n bosibl eu gostwng i’r targed.

Mae taliadau gwresogi cynlluniau boeleri cyfunol yn cael eu codi o fis Ebrill am y tro cyntaf mewn dros 10 mlynedd. Mae’r Cyngor wedi gallu cael prisiau masnachol da iawn am nwy yn y gorffennol ond bellach mae’n talu costau llawer uwch na dwy flynedd yn ôl a rhaid inni basio’r codiadau hyn ymlaen yn awr. Yn anffodus mae hyn yn golygu codiad sylweddol o ran canran (rhwng 30% a 50%) ond mae hyn wedi bod yn wir am y rhan fwyaf o gwsmeriaid nwy bob yn gam ac mae’r taliadau yn dal yn isel iawn mewn cymhariaeth â chostau system wresogi unigol.

Dyma’r safleoedd gyda systemau gwresogi cyfunol :

Cysgodfa, Dinbych
Trem y Foel, Rhuthun
Llygadog, Corwen
Ffordd Caradoc (Fflatiau Lloches), Prestatyn.

Bydd rhenti eiddo ar brydles yn codi o 4.6%

Mae rhenti garejis yn codi o gryn swm eleni o ran canran (51.5%) ond maen nhw’n dal i gynnig gwerth da. Mae hyn yn dilyn arolwg o’r holl safleoedd gan y derbynnir fod atgyweiriadau a gwelliannau i garejis wedi cael blaenoriaeth isel. Mae rhaglen o fân waith cynnal a chadw a phaentio wedi dechrau’n barod ac mae gwelliannau mwy sylweddol wedi’u trefnu ar gyfer pob safle cyn mis Mawrth 2008. Mae angen y codiad i dalu am y rhaglen waith.

Sylwch hefyd os gwelwch yn dda:

· Bydd yr holl denantiaid ar Fudd-dal Tai yn cael eu taliadau cyfredol wedi’u hailgyfrifo’n awtomatig a dylent dderbyn hysbysiad ynghylch eu hawl newydd gan Fudd-daliadau Tai yn awtomatig.

· Bydd yr holl denantiaid sy’n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol yn cael eu rhestri taliadau newydd wedi’u hanfon atynt o leiaf 14 diwrnod cyn y mae’u taliad cyntaf yn ddyledus.


Dylai unrhyw ymholiadau cyffredinol ynghylch y llythyrau codiad gael eu cyfeirio ar 01824 712969 neu ar 01824 712963.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0